Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent a Chyngor Sir Fynwy wedi cydweithio ar fenter ar y cyd i helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel yn ystod yr argyfwng iechyd parhaus ar draws holl ardal y sir.
Am y mis diwethaf, ers diwedd y cyfnod atal byr, mae swyddogion heddlu a swyddogion y cyngor wedi cydweithio i sicrhau bod cymunedau a safleoedd trwyddedig ledled Sir Fynwy yn cydymffurfio â'r rheoliadau.
Mae llawer o leoliadau lletygarwch yn Sir Fynwy, fel tafarndai a thai bwyta, wedi ail agor o dan gyfarwyddyd newydd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae patrolau wedi digwydd yn Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy gan gynnwys gwiriadau cydymffurfio mewn safleoedd lletygarwch, i atgoffa busnesau, y cyhoedd a gweithwyr am y canllawiau perthnasol.
Dywedodd Arolygydd Nikki Hughes:
“Ers dechrau'r argyfwng iechyd, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol i amddiffyn a thawelu meddwl cymunedau Gwent.
“Fel rhan o'r patrolau ar y cyd, mae ein swyddogion - yn gweithio gyda'r cyngor - wedi ymgysylltu â chymunedau i bwysleisio'r negeseuon diogelwch sydd wedi cael eu cynllunio i gadw Cymru'n ddiogel ac arafu lledaeniad y feirws.
"Wrth i ni ddynesu at gyfnod y Nadolig, byddwn yn cynnal mwy o batrolau rhagweithiol ar y cyd ledled ardal y llu gan sicrhau bod pawb yn chwarae eu rhan ac yn ysgwyddo eu cyfrifoldeb personol.
“Bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu â phobl ac annog pawb i wneud popeth o fewn eu gallu. Fodd bynnag, mae ein neges yn glir i'r lleiafrif sy'n diystyru'r cyfyngiadau newydd - byddwn yn cymryd camau gorfodi."
Ychwanegodd David Jones, pennaeth amddiffyn y cyhoedd yng Nghyngor Sir Fynwy:
“Swyddogion yn ein tîm amddiffyn y cyhoedd sy'n darparu'r gwasanaeth 'Olrhain Cysylltiadau’ yn Sir Fynwy.
"Felly, rydym yn gwybod yn iawn lle mae Covid-19 yn fwyaf cyffredin. Gallwn ddefnyddio'r gudd-wybodaeth leol hon i dargedu ein hadnoddau ar y cyd yn y ffordd fwyaf effeithlon er mwyn amddiffyn y cyhoedd yn ehangach.
"Os yw pawb yn cydymffurfio â'r rheolau diweddaraf, gallwn leihau lledaeniad o unigolyn i unigolyn yn effeithiol yn ein cymunedau."