Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid oes dianc rhag y ffaith fod 2020 wedi bod yn anodd – gyda chyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol a chyfyngiadau ar deithio – i bawb. Er y bydd y Nadolig yn teimlo'n wahanol eleni, mae rheolau'r ffordd yn dal i fod yr un fath.
Mae Heddlu Gwent yn atgoffa modurwyr i gadw'n ddiogel drwy barhau i ddilyn rheolau'r ffordd – a fydd yn dal i fod yr un fath – y Nadolig hwn.
Er efallai y bydd y ffyrdd yn dawelach nag arfer, disgwylir y bydd prif ffyrdd ac is-ffyrdd yn brysurach rhwng dydd Mercher 23 Rhagfyr a dydd Sul 27 Rhagfyr wrth i bobl deithio o amgylch Cymru a'r DU yn ehangach i ymweld â'u teuluoedd ar gyfer y Nadolig.
Cynghorir defnyddwyr y ffordd i sicrhau eu bod wedi archwilio eu cerbydau cyn cychwyn ar daith hir a'u bod wedi'u paratoi'n briodol ar gyfer tywydd garw.
Gallant hefyd leihau peryglon y 'pump angheuol' drwy beidio ag yfed na chymryd cyffuriau ac yna gyrru; ufuddhau i'r terfyn cyflymder; peidio â bod yn ddiofal wrth yrru; gwisgo gwregys diogelwch bob amser a diffodd dyfeisiau electronig.
Dywedodd y Rhingyll Jason Williams:
"Nid oes dianc rhag y ffaith fod 2020 wedi bod yn anodd – gyda chyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol a chyfyngiadau ar deithio – i bawb. Gwyddom y gallai'r Nadolig deimlo'n wahanol eleni, ond mae rheolau'r ffordd yn dal i fod yr un fath.
"Wrth i'r Nadolig nesáu, rydym ni eisiau atgoffa pobl ei bod yn gwbl annerbyniol i yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
"Rydym ni’n ffodus bod y mwyafrif llethol o fodurwyr yn defnyddio ein ffyrdd mewn modd synhwyrol ac yn unol â’r gyfraith."
Bydd swyddogion i’w gweld o gwmpas ardal gyfan yr heddlu gan helpu i gadw cymunedau yn ddiogel ac amddiffyn a rhoi tawelwch meddwl i'r cyhoedd drwy gydol cyfnod yr ŵyl.
Bydd yr heddlu'n gweithio gyda'n partneriaid yn y gwasanaethau brys ac yn cynnig cymorth iddyn nhw, gan gofio bod llawer ohonynt yn paratoi ar gyfer un o adegau prysuraf y flwyddyn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Martyn Smith:
"Mae'r neges eleni yn syml; peidiwch â pheryglu eich bywydau a bywydau pobl eraill drwy yrru tra eich bod o dan ddylanwad alcohol - gall yfed gartref olygu eich bod yn dal i fod dros y terfyn y bore wedyn.
"Nid ydym ni eisiau atal pobl rhag dathlu'r Nadolig a mwynhau eu hunain, ond rydym ni eisiau i bobl gadw'n ddiogel, aros yn synhwyrol a bod yn ymwybodol o'r straen ychwanegol sydd ar y gwasanaethau brys dros gyfnod yr ŵyl, yn enwedig ar yr adeg dyngedfennol hon.
"Mae diogelwch ar y ffyrdd yn hollbwysig i Heddlu Gwent. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad sy'n achosi perygl i fywydau ar ein ffyrdd.
"Rydym ni eisiau pwysleisio y bydd unrhyw fodurwr sy'n cael ei ddal yn gyrru ei gerbyd yn beryglus, yn afreolaidd neu'n rhyfygus yn cael ei erlyn."
Cynghorir modurwyr a fydd yn gyrru i’n hardal heddlu ni dros y Nadolig hefyd i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r canllawiau gan awdurdodau lleol yng Ngwent a Llywodraeth Cymru ynghylch y coronafeirws.