Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:11 17/12/2020
Wrth i’r Nadolig agosáu, rydym yn atgoffa’r cyhoedd am ein hawgrymiadau ar gyfer siopa ar-lein yn ddiogel.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, collwyd dros £13,000 gan ddioddefwyr twyll yng Ngwent drwy siopa ac arwerthiannau ar-lein. Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Nick Wilkie, arweinydd seiberdrosedd a thwyll: “Mae’r Nadolig bob amser yn gyfnod prysur i ni a disgwylir y bydd mwy ohonom yn siopa ar-lein eleni yn sgil y pandemig iechyd parhaus. Yn anffodus, bydd twyllwyr yn bachu ar y cyfle i gymryd mantais o siopwyr ar-lein hefyd.
“Hoffem annog pobl i ddilyn cyngor yr ymgyrch Take Five to Stop Fraud i gadw eu hunain yn ddiogel rhag twyll. Arhoswch am eiliad i ystyried cyn cyflwyno arian neu wybodaeth a pheidiwch â gadael i droseddwr roi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad y byddwn yn ei ddifaru.
“Gall unrhyw un ddioddef twyll. Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll, cysylltwch â’ch banc ar unwaith, riportiwch y mater i’r heddlu ar 101 neu i Action Fraud ar-lein ar actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040.”
Cofiwch yr awgrymiadau hyn er mwyn cadw’n ddiogel wrth siopa ar-lein:
Am ragor o gyngor ewch i https://www.gwent.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/fa/twyll/twyll-personol/siopa-ar-lein/