Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:47 13/11/2020
Rydym yn apelio am wybodaeth yn dilyn tân a ddigwyddodd yn Abersychan.
Roedd y tân, sy'n cael ei drin fel un a gafodd ei gynau'n fwriadol, yn nhafarn Twyn-y-Ffrwd Inn ar Heol Ffrwd tua 11.30pm ddydd Sadwrn 24ain Hydref.
Roedd y preswylwyr gartref yn yr adeilad ar y pryd. Yn ffodus, ni chafodd unrhyw un ei anafu ac ychydig o ddifrod a achoswyd.
Yn ôl pob son rhedodd y troseddwr tuag at y dafarn o Heol Harpers Isaf a rhedodd i ffwrdd i fyny'r ffordd honno.
Os gallwch helpu, ffoniwch ni ar 101 gan ddyfynnu 2000388815, neu anfonwch neges uniongyrchol atom. Gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 hefyd.