Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Teyrngedau i fenyw 72 oed o Gwmbrân
Mae teulu menyw 72 oed a fu farw yn dilyn damwain ffordd yng Nghwmbrân wedi talu teyrnged iddi.
Galwyd swyddogion i ddamwain ffordd ddifrifol rhwng cerddwr a VW Golf arian ar y groesfan i gerddwyr ar Heol Llywelyn ger cyffordd Heol Ger y Coed ychydig cyn 7pm, dydd Gwener 27 Tachwedd.
Cludwyd y cerddwr, menyw 72 oed o Gwmbrân, i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle bu farw o’i hanafiadau yn ddiweddarach.
Gallwn bellach gyhoeddi ei henw, sef Mary Eiddwen Phillips o Gwmbrân.
Mae ei theulu wedi rhoi’r deyrnged ganlynol:
“Cafodd ein Mam, Eiddwen, ei chymryd oddi arnom yn llawer rhy gynnar. Roedd yn fam, yn fam yng nghyfraith ac yn fam-gu falch iawn a dreuliodd ei bywyd gwaith yn gofalu am eraill. Bu’n nyrs i ddechrau yna dilynodd camre ei mam a dod yn fydwraig.
Ar ôl iddi ymddeol bu’n teithio’n eang, yn mwynhau garddio, darllen, cymdeithasu gyda ffrindiau a chyn-gydweithwyr. Roedd wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i theulu, sy’n teimlo’r golled i’r byw. Bydd hiraeth mawr amdani gan bawb a oedd yn ei hadnabod.”
Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gynnal y teulu.
Mae dyn 27 oed o Gwmbrân, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, wedi ei ryddhau yn
destun ymchwiliad tra gwneir ymholiadau pellach.
Rydym yn parhau i ymchwilio ac yn gofyn i dystion nad ydyn nhw hyd yma wedi siarad â swyddogion i gysylltu â ni.
Gofynnir hefyd i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu fideo ‘dash cam’ o Heol Llywelyn ger cyffordd Heol Ger y Coed adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â ni.
Gall unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â ni ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod
Fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.