Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:59 13/11/2020
Mae diwedd y cyfnod atal byr wedi arwain at leoliadau lletygarwch yn ailagor, er ei fod o dan ganllawiau llym Llywodraeth Cymru o ran bod yn ddiogel gyda COVID-19. Mae'r cydweithrediad yn ceisio helpu lleoliadau yng Nghaerffili i gadw at y cyfyngiadau hyn ond, bydd hefyd yn rhoi cyfle i'r swyddogion cymryd camau pan fydd lleoliadau yn torri'r rheoliadau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden,
"Rydyn ni wedi gweithio gyda'r gymuned fusnes yn helaeth dros y misoedd diwethaf wrth i'r sefyllfa o ran COVID-19 esblygu ac mae'r rheolau wedi newid. Rydyn ni wedi cyflwyno hysbysiadau gwella a chau, lle bo hynny'n briodol, i roi'r amser i leoliadau gyflwyno mesurau i gydymffurfio a masnachu'n ddiogel o fewn y gyfraith."
Ychwanegodd, "Rydyn ni'n deall bod hwn yn gyfnod anodd i drigolion a busnesau gael cyfyngiadau ar ein bywydau, ond rydyn ni'n ceisio sicrhau bod modd cadw lleoliadau ar agor ac, er mwyn gwneud hynny, rhaid iddyn nhw fasnachu mewn modd diogel. Mae diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig, ac wrth i ni dynnu at fisoedd y gaeaf, mae'n hanfodol ein bod ni'n cynyddu'r cymorth hwn i'r gymuned a chymryd camau gorfodi lle bo hynny'n briodol, a dyna pam rydyn ni wedi dewis cychwyn ar y cydweithrediad hwn gyda Heddlu Gwent."
Meddai'r Prif Uwch-arolygydd, Mark Hobrough,
“Ers dechrau'r argyfwng iechyd, rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol partner i ddiogelu a rhoi sicrwydd i gymunedau Gwent.
"Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau ar y cyd i gamu i mewn ac atal busnesau rhag rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl trwy beidio â dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.
“Ers symud allan o'r cyfyngiadau symud cenedlaethol, rydyn ni wedi gweld cymunedau yn dod at ei gilydd unwaith eto mewn ffyrdd newydd, gan gynnwys busnesau lleol.
"Wrth i ni dynnu at y cyfnod cyn Nadolig, byddwn ni’n cynnal patrolau rhagweithiol ar y cyd ledled ardal ein heddlu, gan sicrhau bod pawb yn chwarae eu rhan ac yn cymryd eu cyfrifoldeb personol.
"Bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu â phawb a'u hannog i wneud popeth o fewn eu gallu, fodd bynnag, i'r lleiafrif o bobl sy'n torri'r cyfyngiadau newydd, mae ein neges yn glir: byddwn ni'n cymryd camau gorfodi."
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert:
“Rydyn ni yng nghanol argyfwng gofal iechyd o hyd. Mae'r achosion o COVID-19 yn y gymuned yn cynyddu ac mae pobl yn marw.
"Rydyn ni nawr yn gwybod yr hyn sydd angen i ni ei wneud i leihau'r risg o ddal a lledaenu’r feirws hwn, ac os ydych chi'n penderfynu anwybyddu'r canllawiau hyn, gall Heddlu Gwent gymryd camau gorfodi yn eich erbyn chi.
"Felly, dilynwch y canllawiau, ymddwyn yn gyfrifol, aros yn ddiogel a helpu i achub bywydau yn eich cymuned."