Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:49 23/10/2020
Cyn i'r cyfnod atal byr ddod i rym yng Nghymru am 6pm heno (23 Hydref 2020), dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Ian Roberts:
"Ers dechrau'r pandemig iechyd rydym wedi bod yn gweithio gyda'n cymunedau lleol i gadw pawb yn ddiogel.
"Wrth i ni symud i gam nesaf y frwydr yn erbyn y feirws hwn, un peth rydym yn ei ofyn. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae, ac mae'n rhaid i ni ddilyn cyfyngiadau newydd Llywodraeth Cymru yn awr ac aros gartref lle bynnag y bo'n bosibl. Trwy wneud hynny rydym yn atal ysbytai lleol rhag cael eu llethu ac yn amddiffyn ein cymunedau.
"Trwy gydol y cyfnod atal byr hwn byddwn yn parhau i ymgysylltu â'n cymunedau ac esbonio pwysigrwydd cadw Cymru'n ddiogel.
"Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn pobl sy'n torri'r cyfyngiadau hyn yn fwriadol.
“Byddwn yn cynnal patrolau ychwanegol ledled Gwent, yn arbennig yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
"Byddwn yn gweithio gyda busnesau a phartneriaid lleol i sicrhau bod pawb yn gwneud popeth y gallant i'n helpu ni i atal lledaeniad parhaus y feirws hwn.
"Rydym wedi ymroi o hyd i ymateb i bob hysbysiad am drosedd a darparu gwasanaeth effeithiol i gymunedau Gwent."