Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:41 29/10/2020
Rydym yn apelio am dystion a delweddau camera car ar ôl dau wrthdrawiad traffig ffyrdd ar Bont Tywysog Cymru, M4 brynhawn ddoe, dydd Mercher 28 Hydref.
Tua 4.20pm gwrthdarodd fan Ford Transit wen gyda Citroen C4 ar y gerbytffordd tua'r gorllewin ac yn syth wedyn digwyddodd gwrthdrawiad ar y gerbytffordd tua'r dwyrain rhwng fan Peugeot Boxer, fan Renault Master a Skoda Fabia.
Gwrthododd y fan Ford Transit ag aros ar safle'r gwrthdrawiad ond daethpwyd o hyd iddi'r bore yma yng Nghasnewydd. Mae dyn 44 oed o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus, gwyrdroi cwrs cyfiawnder a gyrru dan ddylanwad cyffuriau. Mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Ar ôl y gwrthdrawiad aethpwyd â gyrrwr y fan Peugeot Boxer, dyn 50 oed o Fryste, i Ysbyty Southmead ym Mryste i dderbyn triniaeth. Mae'n dal yn yr ysbyty'r bore yma. Nid yw ei anafiadau'n bygwth bywyd.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Rhingyll Leighton Healan: "Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r holl bobl oedd yn defnyddio'r ffyrdd a gafodd eu heffeithio gan y gwrthdrawiad ddoe ar Bont Tywysog Cymru, am eu hamynedd a'u cydweithrediad tra'r oedd y gwasanaethau brys yn cyflawni dyletswyddau hanfodol ar y safle.
"Yn ail, rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y ffordd roedd y fan Ford Transit wen, rhif cofrestru HW70NSF yn cael ei gyrru yn y cyfnod yn arwain at y gwrthdrawiad. Os gwelsoch chi unrhyw beth a oedd yn peri pryder, cysylltwch â ni."
Gofynnir i unrhyw dystion, neu unrhyw un â delweddau camera car, ffonio 101 gan ddyfynnu 2000393370 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.