Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:26 23/10/2020
Mae Heddlu Gwent wedi ymuno â sefydliadau gwasanaethau brys eraill ar draws y byd i ganmol rhai o'i arwyr tawel yn ystod Wythnos Ryngwladol Ystafelloedd Rheoli.
Mae'r wythnos yn rhedeg tan 25 Hydref ac mae wedi'i chynllunio i dalu teyrnged i'r bobl sy'n ymdrin â galwadau a'r cyfryngau cymdeithasol, sydd yn aml iawn yn gyswllt cyntaf i'r cyhoedd pan fydd angen cymorth arnynt.
Mae ystafell reoli'r llu Heddlu Gwent wedi cael ei rhannu'n ddau adnodd - trinwyr galwadau a'r ddesg cyfryngau cymdeithasol - sy'n gallu cynorthwyo gydag ymholiadau gan drigolion yn ardal y llu.
Mae trinwyr galwadau'n ymateb i alwadau ffôn gan ein cymunedau, ac mae tîm pwrpasol ar y ddesg cyfryngau cymdeithasol yn ateb negeseuon gan y cyhoedd trwy gyfrwng Facebook a Twitter.
Dywedodd Uwch-arolygydd Matthew Williams, Pennaeth Ystafell Reoli'r Llu Heddlu Gwent:
"Ers i mi ymuno ag ystafell reoli'r llu alla'i ddim dod dros ymroddiad y tîm. Maen nhw'n mynd yr ail filltir bob dydd.
"Yn ystod cyfnod pan mae galw wedi cyrraedd lefel tebyg i'r galw ar Nos Galan, mae pawb wedi cydweithio a chyflawni. Mae fy neges yn un syml - 'diolch'."
Mae Heddlu Gwent yn derbyn rhwng 1,000 a 1,200 o alwadau'r dydd ar gyfartaledd gan y cyhoedd.
Er mwyn cynorthwyo gyda'r galw o ran galwadau brys i ystafell reoli'r llu, sy'n cael eu hateb gan drinwyr galwadau, mae'r ddesg cyfryngau cymdeithasol yn ymateb i gysylltiadau difrys neu ymholiadau yn gofyn am gyngor.
Yn ystod y mis diwethaf, derbyniodd y ddesg cyfryngau cymdeithasol 9,097 cyswllt gan y cyhoedd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r ddau wasanaeth hyn yn galluogi Heddlu Gwent i fod ar gael i'n cymunedau pan fydd ein hangen arnynt; 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Yr wythnos hon rydym yn cymryd amser i gydnabod tîm yr ystafell reoli, arwyr tawel Heddlu Gwent.
“Mae'r tîm yn ymdrin â miloedd o alwadau, e-byst a negeseuon cyfryngau cymdeithasol 365 diwrnod y flwyddyn ac, ers dechrau pandemig Covid-19, mae'r galw am eu gwasanaeth wedi bod yn eithriadol o uchel.
“Mae eu gwaith caled a'u hymroddiad i bobl Gwent yn fwy amlwg nag erioed.
“Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu gwaith caled, ac am fynd yr ail filltir bob dydd i helpu i amddiffyn a thawelu meddwl pobl Gwent.”
Gellir riportio digwyddiadau i Heddlu Gwent trwy ffonio 101, trwy gyfrwng cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y llu neu yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.