Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:08 06/10/2020
Rydym yn apelio am dystion yn dilyn lladrad yng Nghasnewydd.
Cawsom ein hysbysu am ladrad yn Ffordd Morgan tua 12.25pm ddydd Gwener 2 Hydref.
Riportiodd dyn ei fod wedi cael ei stopio gan ddau berson mewn fan wen a ddywedodd wrtho bod teiar ar ei fan ef yn fflat.
Gadawodd y dyn 64 oed ei fan i wirio'r teiar a chafodd ei wthio i'r llawr. Cymerwyd ei fan transit ond daethpwyd o hyd iddi ychydig yn ddiweddarach yng Nghasnewydd.
Ni chafodd y dioddefwr unrhyw anafiadau yn ystod y lladrad.
Yn ôl y disgrifiad mae un o'r rhai a ddrwgdybir yn fachgen gwyn, a chredir ei fod tua 15 i 16 oed, gyda gwallt byr du. Roedd yn gwisgo mwgwd wyneb Covid du a chrys-T llwyd.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â delweddau camera dashfwrdd o'r ardal ar y pryd, ffonio 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 2000359888.
Gallwch anfon neges uniongyrchol atom gydag unrhyw wybodaeth hefyd. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.