Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddau gi potsiwr gael eu dwyn.
Cafodd y c?n bach, un ci ac un gast, y ddau o dan 12 mis oed, eu dwyn o safle awyr agored mewn eiddo ym Mhenperlleni, Y Fenni.
Fe'u cymerwyd rywbryd rhwng 7.30am a 5.30pm ddydd Mercher 30 Medi.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu sy’n gwybod lle mae’r c?n bach ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom gan ddyfynnu log 330 30/09/20.
Yn ogystal â hyn, anogir perchnogion c?n i gymryd camau diogelwch ychwanegol i sicrhau diogelwch eu c?n:
- Sicrhewch fod gan eich anifail anwes microsglodyn - os bydd eich ci yn rhedeg i ffwrdd a'i fod yn cael ei ganfod, gellir dod o hyd i chi yn hawdd fel ei berchennog. Os caiff eich ci ei ddwyn, pan fydd yn mynd at y milfeddyg, bydd yn darganfod bod gan y ci ficrosglodyn a chewch eich adnabod fel ei wir berchennog.
- Peidiwch â gadael c?n heb eu goruchwylio ar y stryd, hyd yn oed os yw’r gymuned yn fach ac yn gyfeillgar.
- Peidiwch â'u gadael nhw ar eu pen eu hunain mewn car – yn enwedig pan fydd y tywydd yn dechrau cynhesu.
- Sicrhewch fod eich gardd yn ddiogel a pheidiwch â'u gadael ar eu pen eu hunain am gyfnodau hir o amser.
- Os ydych chi’n eu cadw y tu allan, gwnewch yn si?r bod eich eiddo a'ch cytiau c?n yn ddiogel.