Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn annog cymunedau i fod yn greadigol wrth gadw'n ddiogel dros gyfnod Calan Gaeaf trwy lawrlwytho pecyn gweithgareddau tymhorol.
Er bod llawer o ddigwyddiadau cyhoeddus wedi cael eu gohirio oherwydd yr argyfwng iechyd parhaus, rydym yn gofyn i bobl ganfod ffyrdd i fwynhau Calan Gaeaf o fewn y canllawiau cenedlaethol ac mewn ffordd ystyriol a diogel.
Mae'r pecyn gweithgareddau, sydd ar gael ar wefan Heddlu Gwent, yn cynnwys cynlluniau y gellir eu lliwio a thempledi ar gyfer cerfio pwmpenni.
Yna gellir rhannu'r rhain ar y cyfryngau cymdeithasol, trwy dagio un o'n cyfrifon gyda #PigwchEichPwmpen, neu gellir eu dangos mewn ffordd fwy traddodiadol yn ffenest eich cartref.
Yn y cyfamser, bydd swyddogion allan ar draws ardal y llu yn amddiffyn a thawelu meddwl y cyhoedd yn ystod un o adegau mwyaf prysur y flwyddyn i Heddlu Gwent.
Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough:
“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd Calan Gaeaf yn wahanol eleni, ond rydym am i bobl fod yn ystyriol a chadw'n ddiogel wrth iddynt ddathlu Calan Gaeaf.
"Rydym yn annog pobl i ganfod ffyrdd i ddathlu Calan Gaeaf o fewn y canllawiau cenedlaethol. Mae'n bwysig cofio hefyd nad yw pawb yn gweld yr hwyl adeg Calan Gaeaf.
"Ni fydd Heddlu Gwent byth yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol na difrod troseddol. Bydd pobl sy'n cael eu dal yn cyflawni'r troseddau hyn yn cael eu herlyn a gallent wynebu cofnod troseddol.
“Rydym yn gofyn i'r cyhoedd barhau i fod yn ystyriol, cadw'n ddiogel, ymddwyn yn synhwyrol a thalu sylw i'r canllawiau cenedlaethol sydd ar waith.
"Mae'n bosibl y bydd rhaid i bobl nad ydynt yn dilyn y canllawiau wynebu camau gorfodi ar ôl i ni ymgysylltu, annog ac addysgu pobl ymlaen llaw.
"Rydym yn gweithio gyda'n hasiantaethau partner, megis awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.
"Gofynnwn i'n trigolion fod yn ddoeth wrth gysylltu hefyd, gan na allwn ond ymateb i droseddau a phryderon sy'n ymwneud â materion plismona, y gall ein swyddogion ymdrin â nhw wedyn."