Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:35 30/04/2021
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl cael ein hysbysu am achos o ddwyn e-feic yng Nghasnewydd tua 4.45pm dydd Iau 29 Ebrill.
Roedd bachgen 16 oed yn seiclo ar hyd camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ger Lôn Malpas, tuag at Barrack Hill, pan aeth dau ddyn i fyny ato.
Yn ôl y sôn cafodd y bachgen ei wthio oddi ar ei e-feic i mewn i'r gamlas ar ôl cael ei fygwth gyda chyllell. Gadawodd y ddau ddyn gyda beic y bachgen.
Yn ôl y disgrifiad roedd un dyn o dras Asiaidd a chanddo groen tywyll, roedd yn denau ac roedd ganddo wallt du byr gyda rhimyn. Roedd rhwng 5' 9" a 5' 11" o daldra.
Credir ei fod rhwng 18 a 21 oed ac roedd yn siarad ag acen Casnewydd ac yn gwisgo cot "puffa" las ar y pryd.
Roedd yr ail ddyn yn gwisgo balaclafa, roedd rhwng 5' 10" a 6' o daldra ac roedd yn gwisgo siaced "puffa" sgleiniog.
Mae'r e-feic yn un Haibike glas ac mae ganddo gyrn a marciau oren nodweddiadol.
Mae ymholiadau'n parhau a gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai helpu ein hymchwiliad, neu sydd â delweddau CCTV neu gamera car, neu sy'n gwybod pwy yw'r ddau ddyn, ffonio Heddlu Gwent ar 101, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100149700.
Gallwch gysylltu â ni ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter hefyd neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.