Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:48 01/04/2021
Mae Ditectifs yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yn Nhŷ-du, Casnewydd.
Rydym yn ymchwilio i ymosodiad a ddigwyddodd ym Mharc Thornbury, Ebenezer Drive ar 7 Mawrth am tua 8.10pm.
Ymosodwyd ar ddyn 27 oed o Gasnewydd gan ddau ddyn arall. Cafodd anafiadau difrifol a chafodd driniaeth yn yr ysbyty. Mae wedi ei ryddhau ers hynny.
Cafodd dyn 44 oed o Gaerdydd ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau’n parhau.
Mae swyddogion yn apelio ar i unrhyw fodurwr sydd â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu gan y gallent fod wedi cipio lluniau o gar lliw tywyll yn teithio yn yr ardal.
Os oeddech chi'n teithio yn yr ardaloedd a'r amseroedd canlynol, cysylltwch gyda’ch lluniau camera dashfwrdd
• Pye Corner, High Cross Road, Ebenezer Drive neu Rhodfa’r Gorllewin rhwng 7.50pm a 8.15pm.
• Glasllwch Crescent rhwng garej Texaco a Rhodfa'r Gorllewin rhwng 8pm ac 8.10pm
Gallwch hefyd uwchlwytho lluniau drwy'r ddolen ganlynol: https://unitedkingdom1cpp-portal.digital-policing.co.uk/gwpswp/appeal/dash-camera-footage-on-7th-march-2021
Gofynnir i unrhyw sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101, gan ddyfynnu 2100080899, neu gallwch anfon neges ar Facebook neu Twitter. Gallwch hefyd ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.