Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri chi wedi cael eu hatafaelu ac un dyn wedi cael ei arestio ar ôl i sawl gwarant gael eu gweithredu yng Nghasnewydd heddiw. (Ebrill 22)
Gyda chefnogaeth yr RSPCA ac Adran Safonau Masnachu Cyngor Casnewydd, gweithredodd swyddogion warantau mewn pump cyfeiriad ledled Casnewydd gan gynnwys Ringland, Somerton a Maesglas.
Cafodd y cŵn eu hachub ar sail lles anifeiliaid ac maent yng ngofal yr RSPCA. Maent yn derbyn gofal y tu allan i ardal Gwent.
Arestiwyd dyn 40 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o achosi dioddefaint diangen i anifail gwarchodedig a thwyll.
Mae wedi cael ei ryddhau o’r ddalfa heb gyhudduad wrth i ymholiadau barhau gydag asiantaethau partner.
Rydym yn gweithio gyda'r RSPCA yn awr i adnabod y cŵn rydym wedi eu darganfod a chanfod a oes rhai ohonynt wedi cael eu dwyn. Os yw rhai o'r cŵn wedi cael eu dwyn byddwn yn dod o hyd i'w perchnogion er mwyn eu dychwelyd iddynt.
Yr wythnos ddiwethaf, gwnaethom achub 21 o gŵn yn ystod gwarant yn Ringland, Casnewydd. Roedd pedwar o'r cŵn wedi cael eu riportio i fod wedi eu dwyn ac maent yn y broses o gael eu dychwelyd at eu perchnogion.
Roedd un o'r cŵn wedi cael ei ddwyn o Flaenau Gwent ac roedd tri wedi cael eu riportio i fod wedi cael eu dwyn y tu allan i ardal Gwent.
Rydym yn parhau i weithio gyda'r RSPCA i geisio dod o hyd i berchnogion y cŵn eraill.
Dywedodd Cwnstabl Heddlu Bianca Robson: “Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â'r RSPCA i weithredu gwarantau mewn nifer o lefydd ar draws ardal Casnewydd. Mae ymchwiliadau ac ymholiadau'n parhau i geisio dod o hyd i berchnogion y cŵn a gafodd eu darganfod.
“Rydym yn gwybod pa mor dorcalonnus mae colli anifail anwes annwyl yn gallu bod ac rydym am sicrhau perchnogion anifeiliaid anwes ein bod yn ymchwilio'n drwyadl i hysbysiadau o'r math hwn. Hoffem dawelu meddwl ein cymunedau lleol bod nifer yr achosion o ddwyn cŵn yn dal i fod yn isel yng Ngwent.
“Rydym yn dibynnu ar y cyhoedd i roi gwybodaeth i ni a hoffem annog unrhyw un sy'n gweld unrhyw beth amheus i'w riportio wrthym ni.”
Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman sydd wedi bod yn gyfrifol am arwain ymateb yr heddlu i achosion o ddwyn cŵn yn rhan o'i rôl fel arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar drosedd meddiangar.
Dywedodd: “Mae cynnydd wedi bod yn genedlaethol yn y galw am gŵn yn ystod y pandemig. Er bod nifer yr achosion o ddwyn cŵn yn isel yn genedlaethol, mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r math hwn o ymddygiad troseddol wedi codi, yn arbennig ar gyfryngau cymdeithasol.
"Gall perchnogion cŵn gymryd camau diogelu rhesymol i atal achosion o ddwyn megis gwirio gosodiadau preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol cyn rhannu lluniau o'ch anifail anwes ar-lein, gan fod hyn yn gallu denu sylw rhai troseddwyr.
"Hoffwn annog pobl sy'n prynu cŵn i ystyried yn ddwys o ble mae'r anifail wedi dod ac i sicrhau eu bod yn ei brynu'n gyfreithlon. Mae cyngor ar gael ar-lein am y gwiriadau y dylech eu gwneud cyn prynu ci neu gi bach newydd.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, ffoniwch ni ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 2100139216.
Gallwch gysylltu â ni trwy neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter hefyd.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Mwy o gyngor - www.bluecross.org.uk/pet-advice/protect-your-dog-against-theft