Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:20 13/04/2021
Mae 21 o gŵn wedi cael eu hachub a dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn gwarant yng Nghasnewydd.
Cafodd y cŵn eu hachub ar sail lles anifeiliaid yn dilyn gwarant a weithredwyd gan swyddogion yn ardal Ringland brynhawn Ebrill 12.
Mae'r cŵn yng ngofal yr RSPCA y tu allan i ardal Gwent.
Arestiwyd dau ddyn, 25 a 44 oed, y ddau o Gasnewydd, ar amheuaeth o ddifrod troseddol, ymgais i ddwyn, ymgais i fyrglera ac achosi dioddefaint diangen i anifail gwarchodedig.
Mae'r dyn 25 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae'r dyn 44 oed wedi cael ei ryddhau tra bod ymholiadau'n parhau.
Rydym yn gweithio gyda'r RSPCA yn awr i adnabod y cŵn rydym wedi eu darganfod a chanfod a oes rhai ohonynt wedi cael eu dwyn. Os yw rhai o'r cŵn wedi cael eu dwyn byddwn yn dod o hyd i'w perchnogion er mwyn eu dychwelyd iddynt.
Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman sydd wedi bod yn gyfrifol am arwain ymateb yr heddlu i achosion o ddwyn cŵn yn rhan o'i rôl fel arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar drosedd meddiangar.
Dywedodd: “Rydym yn gwybod pa mor dorcalonnus mae colli anifail anwes annwyl yn gallu bod ac rydym am sicrhau perchnogion anifeiliaid anwes ein bod yn ymchwilio'n drwyadl i hysbysiadau o'r math hwn.
“Mae nifer yr achosion o ddwyn cŵn sy'n cael eu riportio yng Ngwent yn dal yn isel, ond rydym yn ymwybodol o'r cynnydd yn y galw am gŵn yn genedlaethol yn ystod y pandemig. Mae cost ci bach wedi codi'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf gan greu marchnad broffidiol i droseddwyr cyfundrefnol fanteisio arni.
“Er bod nifer yr achosion o ddwyn cŵn yn isel yn genedlaethol, mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r math hwn o ymddygiad troseddol wedi codi. Rydym yn dibynnu ar y cyhoedd i roi gwybodaeth i ni a hoffem annog unrhyw un sy'n gweld unrhyw beth amheus i'w riportio wrthym ni.
"Gall perchnogion cŵn gymryd camau diogelu rhesymol i atal achosion o ddwyn megis gwirio gosodiadau preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol cyn rhannu lluniau o'ch anifail anwes ar-lein, gan fod hyn yn gallu denu sylw rhai troseddwyr.
"Hoffwn annog pobl sy'n prynu cŵn i ystyried yn ddwys o ble mae'r anifail wedi dod ac i sicrhau eu bod yn ei brynu'n gyfreithlon. Mae cyngor ar gael ar-lein am y gwiriadau y dylech eu gwneud cyn prynu ci neu gi bach newydd.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, ffoniwch ni ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 2100126275.
Gallwch gysylltu â ni trwy neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter hefyd.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.