Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:45 09/04/2021
Yn ystod 2019, cafodd 598 o yrwyr beiciau modur a 412 o seiclwyr eu lladd neu eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru.
Rhwng 5 - 18 Ebrill, mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) ac Ymgyrchoedd, Cuddwybodaeth ac Ymchwilio Plismona Ffyrdd Cenedlaethol (NRPOII) yn trefnu ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd "2 olwyn", i wella diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer beiciau modur a seiclwyr.
Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth ymhlith modurwyr cyffredinol, yn ogystal â reidwyr, ynglŷn â sut i wella ymddygiad gyrwyr/reidwyr er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd.
Yn ôl Cycling UK mae "62% o bobl yn y DU yn ystyried bod seiclo ar y ffyrdd yn rhy beryglus."
Un o'r bygythiadau mwyaf i ddiogelwch seiclwyr ar y ffordd yw modurwyr yn goddiweddyd yn rhy agos. Nid yn unig y mae pasio yn rhy agos yn fygythiol iawn, ond mae'n beryglus hefyd ac yn ffactor cyfrannol mewn 25% o wrthdrawiadau difrifol rhwng seiclwyr a cherbydau mawr (Cycling UK).
Mae beicwyr modur ymhlith y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed ar y ffyrdd, ac o'u cymharu ag eraill, maent mewn mwy o berygl o gael eu hanafu ac o fod yn rhan o wrthdrawiadau.
Dywed Uwch-arolygydd Glyn Fernquest: "Rydym wedi ymroi i wella diogelwch pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd yng Ngwent, gan gynnwys beicwyr modur, seiclwyr a phobl sy'n marchogaeth.
"Dros y misoedd nesaf, wrth i'r tywydd wella ac wrth i fwy a mwy o feicwyr modur a seiclwyr ddefnyddio ein ffyrdd, byddwn yn ymgysylltu â reidwyr ledled Gwent i siarad am y camau y gallant eu cymryd i wella diogelwch a gwelededd.
"Mae pethau fel gwirio eich cerbydau cyn dechrau ar siwrnai, reidio o fewn y terfyn cyflymder cyfreithiol, rhoi digon o le ac amser i chi eich hun a phobl eraill wrth oddiweddyd a gosod eich hun yn y lle mwyaf diogel posibl i allu gweld yn glir yn gallu gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i bob un ohonom."
Dylem gymryd gofal o'n beicwyr modur a'n seiclwyr trwy gofio:
Gall seiclwyr fod yn anodd eu gweld, yn enwedig ar gyffyrdd. Maent yn tueddu i fod yn sigledig hefyd, ac mae gwynt ochr yn effeithio'n hawdd arnynt wrth gael eu goddiweddyd. Maent yn arbennig o agored i niwed wrth gylchfannau gan na allant symud i ffwrdd yn gyflym iawn.
Gall beicwyr modur fod yn anodd eu gweld, yn enwedig ar gyffyrdd. Yn aml maent yn symud yn gyflymach nag y byddech yn ei feddwl a gall gwynt ochr effeithio arnynt pan fyddant yn cael eu goddiweddyd.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll a Chadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru:
"Mae gan bob un ohonom yr hawl i ddefnyddio'r ffyrdd yn ddiogel ac yn hyderus. Os ydym i gyd yn chwarae ein rhan ac yn rhannu'r ffyrdd yn gyfrifol drwy ymateb yn gyfrifol ac yn ddiogel, gallwn wneud pob taith yn daith ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd; os ydynt yn teithio ar bedair olwyn neu ddwy.
“Beth am ofalu am ein gilydd ar y ffyrdd a dod â lefel yr anafiadau dwy olwyn ar ffyrdd Cymru i lawr."
Anogir beicwyr modur a seiclwyr i fynd i wefan Cymru ar y Beic i gael gwybodaeth ac arweiniad am gyrsiau, llwybrau a chyngor diogelwch.