Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:38 14/04/2021
Cafodd dros 40 o yrwyr eu riportio am droseddau moduro yn rhan o weithgarwch diweddaraf Ymgyrch Utah.
Mae Ymgyrch Utah yn ymgyrch amlasiantaeth a'i nod yw darganfod a mynd i'r afael â defnyddwyr ffyrdd sy'n rhoi modurwyr eraill mewn perygl - naill ai drwy yrru'n anghyfreithlon neu drwy yrru cerbydau nad ydynt o safon ddiogel.
Digwyddodd yr ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd ddydd Gwener 9 Ebrill yn safle profi a phont bwyso'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau ar gylchfan Coldra, Casnewydd.
Ymunodd swyddogion â phartneriaid o'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, Safonau Masnachu, y Tîm Cyd-gysylltu Trosedd Rhyngwladol a Phartneriaeth Lleihau Damweiniau ar y Ffyrdd Cymru.
Dyma gafodd ei riportio yn ystod diwrnod yr ymgyrch:
Dywedodd Cwnstabl Heddlu Will Parr:
“Nod yr ymgyrch hwn yw atal troseddwyr rhag defnyddio'r ffyrdd a mynd i'r afael â defnyddwyr ffyrdd anghyfrifol sy'n peryglu pobl eraill trwy beidio â chadw at reolau diogelwch y ffyrdd neu drwy ddefnyddio cerbydau â diffygion peryglus.
"Hoffwn ddiolch i'n partneriaid am weithio gyda ni i wneud y ffyrdd yn ein cymunedau mor ddiogel â phosibl.
"Rwyf yn gobeithio y bydd canlyniadau'r ymgyrch hwn yn anfon neges glir bod gyrru'n anghyfrifol neu beidio â chynnal a chadw eich cerbyd yn annerbyniol a byddwn yn ymdrin yn gadarn â phobl sy'n gwneud hynny."