Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ymgyrch Sceptre - ymgyrch o weithredu cenedlaethol i fynd i'r afael â throseddau cyllyll a thrais difrifol - yn dechrau heddiw.
Nod yr ymgyrch yw tynnu arfau peryglus oddi ar y strydoedd, lleihau troseddau cyllyll a chodi ymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau cario cyllell.
Rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i ddefnyddio biniau ildio cyllyll i gael gwared ar gyllyll yn ddiogel ac yn anhysbys mewn gorsafoedd heddlu ledled Gwent heb ofni cael eu herlyn.
Mae biniau ildio cyllyll wedi cael eu gosod yn y gorsafoedd heddlu canlynol yng Ngwent ar yr amseroedd canlynol:
Byddant ar gael yn ystod wythnos yr ymgyrch - o Ebrill 26 tan Mai 2.
Am resymau diogelwch, dylai pobl sy'n gwaredu arfau yn y biniau ildio lapio'r arf neu'r llafn mewn papur newydd, yna'i roi mewn blwch cardfwrdd a mynd ag ef i un o'r gorsafoedd.
Dywed Uwch-arolygydd Glyn Fernquest: “Mae troseddau cyllyll yn dal yn gymharol brin i'r rhan fwyaf o'n cymunedau ond maent wedi cynyddu yn genedlaethol ac fel llu nid ydym yn eithriad i hynny. Gan fod y mathau hyn o droseddau'n uwch eu proffil yn awr, mae pryder yn cynyddu yn ein cymunedau felly hoffem dawelu meddwl y cyhoedd ein bod wedi ymroi i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
"Rydym yn rhoi sylw i droseddau cyllyll mewn nifer o ffyrdd yng Ngwent, gan gynnwys parhau i gynnal ymgyrchoedd fel Ymgyrch Sceptre sy'n canolbwyntio ar dynnu cyllyll oddi ar ein strydoedd. Fel rhan o'u gwaith plismona dyddiol, mae ein swyddogion yn defnyddio pwerau stopio a chwilio yn seiliedig ar gudd-wybodaeth i dargedu pobl sy'n cyflawni troseddau treisgar.
"Ochr yn ochr â'r wythnos genedlaethol o weithredu, rydym yn parhau i roi sylw i droseddau cyllyll yn rhan o'n gwaith plismona bob dydd ac mae swyddogion yn defnyddio stopio a chwilio seiliedig ar gudd-wybodaeth i atal y bobl hynny sy'n credu bod cario cyllell yn ddewis synhwyrol.
"Rwyf am dawelu meddwl cymunedau y bydd unrhyw un sy'n cario cyllell, beth bynnag fo'r rheswm, yn cael ei stopio, ei chwilio, bydd y gyllell yn cael ei hatafaelu a byddwn yn ymdrin â'r unigolyn yn briodol trwy'r system cyfiawnder troseddol. Mae pob cyllell sy’n cael ei thynnu oddi ar y strydoedd yn achub bywyd yn y pen draw.
“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am unigolion sy'n ymwneud â throseddau cyllyll, neu os oes unrhyw un yn pryderu, ffoniwch Heddlu Gwent ar 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom trwy gyfrwng Facebook neu Twitter. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.”