Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddwy garafán gael eu dwyn.
Tua 5.40pm ar y 4ydd o Awst cafodd carafán Swift Sprite Quattro (lliw hufen gyda fflachiadau glas, gweler y llun) ei dwyn o storfa carafanau Ysgawen yng Nghroespenmaen. Mae’r garafán werth £19,000.
Yn hwyrach yr un noson, tua 11.25pm, cafodd carafán Swift Sprite Quattro (lliw gwyn gyda logo gwyrdd, gweler y llun isod) ei dwyn o storfa carafanau Buck Farm yn Rhisga. Mae hon werth £19,000 hefyd. (Cyf: 2100276371)
Mae swyddogion yn awyddus i ddod o hyd i’r Kia hwn (rhif plât: 04D63773, gweler y llun) a welwyd yn ardal Croespenmaen adeg y lladrad. Ers hynny mae’r cerbyd wedi cael ei weld yn ardal Gabalfa, Caerdydd. (Cyf: 2100274148)
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’r lladradau hyn, neu sy’n gwybod lle mae’r carafanau neu’r Kia, ffonio 101 yn dyfynnu’r rhif cyfeirnod perthnasol.