Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl cael hysbysiad am ladrad yn Heol Llywelyn, Cwmbrân.
Aeth dau ddyn i mewn i archfarchnad Asda rhwng 5.45pm a 6.20pm ddydd Gwener 6 Awst ac, yn ôl a ddeallwyd, rhoi nifer o eitemau electronig uchel eu gwerth mewn bag cefn llwyd.
Gadawodd y pâr y siop ar ôl mynd i'r tiliau hunanwasanaeth i dalu am eitemau eraill ond credir na wnaethant dalu am yr eitemau a roddwyd yn y bag cefn.
Yn ôl y disgrifiad mae'r dyn cyntaf yn wyn, yn solet, rhwng 25 a 35 oed, tua 6'1" o daldra ac mae ganddo wallt byr du a thatŵ ar ei fraich dde rhwng yr ysgwydd a'r penelin.
Roedd yn gwisgo crysbais du, cryt-t glas tywyll, siorts tywyll ac esgidiau rhedeg gwyn.
Yn ôl y disgrifiad mae'r ail ddyn yn wyn, yn denau, yn ei ugeiniau, tua 5' 10" o daldra ac mae ganddo wallt byr du.
Roedd yn gwisgo crys-t du gyda symbol ar ei flaen, siorts denim glas ac esgidiau rhedeg du.
Mae ymholiadau'n parhau a hoffai swyddogion siarad â'r dynion hyn a oedd yn y siop ar y pryd ac a allai eu helpu gyda'u hymchwiliad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100279503 neu gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.