Stamp amser presennol: 26/05/22 18:09:17
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCauCysyltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

GWENT POLICE FULL_ white

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Trosedd bosibl yn erbyn y mesurau coronafeirws
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
    • Drosedd bosibl yn erbyn y mesurau coronafeirws (Covid-19)
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Cofrestrwch fel ymwelydd tramor
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Diolch
    • Adborth am y wefan

Dathlu pobl arbennig

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Newyddion

09:53 11/08/2021

Specials walking down street.png

Ers mis Ionawr 2021, gyda'i gilydd mae 75 cwnstabl gwirfoddol  Heddlu Gwent wedi gwirfoddoli 21,873  o oriau. Mae hynny'n fwy o oriau i bob gwirfoddolwr nac unrhyw heddlu arall yn y rhanbarth.

Mae gan yr heddlu gwirfoddol yr un pwerau a swyddogion arferol. Maen nhw'n gwisgo lifrai tebyg, yn cario'r un offer ac yn derbyn yr un hyfforddiant. Maen nhw'n 18 oed neu'n hŷn ac yn cefnogi swyddogion arferol mewn amrywiaeth o waith heddlu o ddydd i ddydd:  patrolau cerdded i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atal troseddwyr, ymateb i hysbysiadau am bobl ar goll, a chadw cymunedau'n ddiogel mewn llawer o ffyrdd.

Mae rhai yn hyfforddi i weithio o fewn timau plismona arbenigol hefyd, megis plismona ffyrdd ac amddiffyn pobl agored i niwed. Mae eraill yn defnyddio'u sgiliau mewn meysydd arbenigol, megis seiberdrosedd.

Mae gofyn i swyddogion gwirfoddol ymroi i isafswm o 16 awr o wasanaeth gwirfoddol y mis, ond mae llawer o gwnstabliaid gwirfoddol Gwent yn cyfrannu mwy o oriau na hyn.   

Mae gan swyddogion gwirfoddol Heddlu Gwent swyddi bob dydd mewn sawl diwydiant gan gynnwys TG, cynhyrchu bwyd, dysgu, y diwydiant awyrennau, gweinyddu, lletygarwch a'r sector cyhoeddus. Mae rhai ohonynt yn fyfyrwyr, rhai'n ofalwyr amser llawn a rhai wedi ymddeol. Maen nhw'n cynrychioli sawl cenedligrwydd, crefydd, ardal a chefndir ethnig. 

Mae Lou yn rhingyll gwirfoddol gyda Heddlu Gwent.  Mae wedi bod yn gwasanaethu am bron i ddwy flynedd.

"Rwy'n dod o gefndir gwasanaeth cwsmeriaid a gwerthu, ac roeddwn yn meddwl bod rhaid i chi fod yn ifanc i ymuno â'r heddlu - ond nid yw hynny'n wir o gwbl.

"Mae bod yn heddlu gwirfoddol hŷn yn gallu bod yn beth da - rwyf wedi cerdded i mewn i'r swydd gyda mwy o aeddfedrwydd a digon o brofiad bywyd.

"Nid yw rôl heddlu gwirfoddol yn golygu bod angen gwybod popeth – mae’n fwy i wneud gyda rhoi eich hun yn sefyllfa'r person rydych yn ymdrin â nhw. Os gallwch chi siarad â rhywun a deall y sefyllfa sy'n peri problem iddyn nhw, gallwch helpu i ddatrys y broblem.

"Os ydych chi'n ystyried ymuno â'r heddlu fel swyddog gwirfoddol, cofiwch fod hon yn rôl wirfoddol gwbl unigryw. 'Does dim byd arall yn dod yn agos ati, ac mae'n bwysig eich bod chi’n ymroi i'ch hyfforddiant. Bydd bywyd fel swyddog gwirfoddol yn dylanwadu ar y ffordd rydych chi'n gweld y byd.

“A sut byddwch chi ar eich ennill o fod yn swyddog gwirfoddol?  Byddwch yn magu hyder, cryfder a thwf personol, byddwch yn cyflawni rôl sy'n ennyn parch mewn tîm ardderchog, ac yn cael profiadau anhygoel. Bydd gan fy nhîm plismona le arbennig iawn yn fy nghalon am byth."

Roedd Owen yn un o'r garfan gyntaf i astudio'r cwrs gradd Plismona Proffesiynol BSc (Anrhydedd) ym Mhrifysgol De Cymru, Pontypridd. Mae wedi cyfrannu dros 1000 o oriau fel swyddog gwirfoddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a graddiodd gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn ddiweddar.

"Roedd bod yn fyfyriwr Plismona Proffesiynol yn ystod Covid-19, yn golygu fy mod yn gallu gwneud swydd cwnstabl gwirfoddol amser llawn ac astudio ar yr un pryd. 

“Yn ystod fy nwy flynedd fel cwnstabl gwirfoddol, rwyf wedi gwneud yr un dyletswyddau â swyddogion amser llawn, ac wedi gwneud ffrindiau gwych.

"Cyn astudio a dod yn swyddog heddlu gwirfoddol, gweithiais yn y maes manwerthu am ddwy flynedd, ac rwyf wedi gwirfoddoli mewn banc yn y gorffennol hefyd. Mae gwirfoddolwyr yn gallu cael effaith enfawr ar eu cymuned.

“Fel gwirfoddolwr, mae gennych chi fwy o amser a'r gallu i ymroi i bethau sydd o bwys i chi. Mae rôl swyddog heddlu gwirfoddol yn gallu bod yn anodd ac yn ingol, ond ar ôl mynd adref (hyd yn oed ar ôl wythnos wael) rwy’n meddwl am y pethau rwyf wedi eu gwneud yn rhan o'r swydd ac rwy'n teimlo'n falch.

"Mae bod yn swyddog heddlu gwirfoddol yn gofyn am ymrwymiad go iawn, ac mae'n bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil a deall beth sy'n ofynnol. Siaradwch gyda phobl sydd eisoes yn heddlu gwirfoddol, ac os ydych chi'n credu bod y rôl yn iawn i chi, ewch amdani gyda meddwl agored, dewch i adnabod y gymuned rydych yn gweithio ynddi, a pheidiwch â danto ar ôl wythnos wael. Cofiwch fod angen ymdrech er mwyn elwa: manteisiwch ar bob cyfle a byddwch yn dysgu llwythi ar hyd y ffordd. 

“Y peth gorau 'dwi erioed wedi'i wneud.”

Mae Gareth yn Arolygydd Gwirfoddol, ac mae ganddo swydd amser llawn yn y maes dylunio graffeg a digidol.

"Roedd ymuno â Heddlu Gwent fel swyddog gwirfoddol yn ddelfrydol i mi: Dwi'n gallu dal i weithio bob dydd yn gwneud gwaith 'dwi wrth fy modd yn ei wneud, a gwirfoddoli fel swyddog heddlu.

"Beth ydw i'n ei hoffi orau am fy rôl fel swyddog gwirfoddol? Wel, 'dwi wedi cwrdd â rhai o'm ffrindiau agosaf trwy'r gwaith hwn - 'dwi ddim yn credu y byddwn i wedi dod ar eu traws oni bai am yr heddlu gwirfoddol.

"Beth arall? Yr amrywiaeth: yr holl bethau dwi'n cael eu gwneud na fyddwn i’n cael y cyfle i'w gwneud fel sifiliad. Weithiau dwi'n gweithio gyda'r adran cŵn heddlu, ac weithiau ar ein tîm plismona ffyrdd. Dwi wedi gweithio mewn cyngerdd Little Mix, ar orymdeithiau Pride yng Nghaerdydd, a ‘dwi wedi cefnogi’r heddlu yn ystod ymweliad brenhinol.

"Mae fy hyfforddiant fel swyddog gwirfoddol wedi rhoi'r sgiliau i mi ddelio â phroblemau mewn ffordd ddigyffro a strwythuredig. Dwi'n hoffi bod yn rhan o'r teulu heddlu. Dwi yma am fy mod eisiau bod yma, dim i dderbyn cyflog. Pan 'dwi’n gwisgo fy lifrai, dwi'n esiampl - ond dwi hefyd yn berson arferol sydd wedi penderfynu ymroi i wneud ychydig mwy.

"Os ydych chi'n meddwl gwirfoddoli fel cwnstabl gwirfoddol, gwnewch hynny - ond peidiwch â meddwl ei fod yn mynd i fod yn beth hawdd. 'Dydi e' ddim yn hawdd. Fel heddlu gwirfoddol, ni sy'n penderfynu pryd rydym yn gweithio, nid sut rydym yn gweithio. Rydym yn gweithio i gyflawni'r un safonau uchel a gyda'r un protocolau a swyddogion heddlu arferol - ac rydym yn ennill sgiliau a hyder sy'n gwneud ein bywydau o ddydd i ddydd cymaint yn fwy gwerthfawr."

Prif Arolygydd Amanda Thomas sy'n arwain ar bartneriaethau Heddlu Gwent.

Wrth agor cyfnod recriwtio cwnstabliaid gwirfoddol diweddaraf Heddlu Gwent, dywedodd:

"Does dim un math penodol o gwnstabl gwirfoddol.

"Mae pob un yn dod â rhywbeth unigryw i'r tîm, ond mae pob un ohonynt yn rhannu'r un nod: rhoi o'u hamser a'u sgiliau i helpu i wneud cymunedau Gwent yn llefydd mwy diogel a chydlynus.

"Os gallwch chi roi 16 awr y mis, os ydych yn mwynhau her a datrys problemau, ac am helpu i gadw eich cymuned yn ddiogel a gwneud ffrindiau am oes, rydym eisiau clywed gennych chi."

Mae oriau gwirfoddoli yn hyblyg, a gallwch drefnu eich amser o gwmpas eich ymrwymiadau personol. 

Dysgwch fwy a dechreuwch ar eich ffurflen gais - Cwnstabliaid Gwirfoddol | Heddlu Gwent

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Gwent

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Ymunwch â ni
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2022. Cedwir pob hawl.