Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Carl Williams:
"Roedd symud i Lefel Rhybudd Sero fore Sadwrn yn garreg filltir fawr i'n cymunedau, ac roedd hyn o ganlyniad i'w gwaith caled parhaus i arafu lledaeniad Covid-19.
"Arweiniodd y gwaith caled hwn yn ddiweddar at lacio cyfyngiadau ymhellach gan Lywodraeth Cymru dros y penwythnos, gan gynnwys ailagor clybiau nos lleol a newidiadau i letygarwch ehangach.
"Er nad oes cyfyngiadau ar waith mwyach o ran nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod dan do, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol o hyd i amddiffyn ein hunain ac eraill pan fyddwn allan yn ein trefi.
"Rydym yn falch o ddweud bod y gefnogaeth i'r gwasanaethau brys, gweithwyr allweddol a'r gymuned ehangach wedi bod yn amlwg dros y penwythnos, wrth i'r mwyafrif helaeth o drigolion fwynhau eu hunain yn gyfrifol, a pharhau i gymryd camau i arafu lledaeniad y feirws."