Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ddiweddar, lansiwyd llyfr a ysgrifennwyd gan Heddlu Gwent, trigolion Lansbury a PETRA Publishing yng Nghanolfan Gymunedol Y Fan.
Mae Who said pigs can’t fly?, a ysgrifennwyd gan Mike Church, gyda chyfraniadau gan gymuned Parc Lansbury a swyddogion Heddlu Gwent, yn portreadu'r rôl gadarnhaol mae cymunedau a'r heddlu'n ei chwarae yn eu trefi.
Mae'r llyfr i blant yn adrodd hanes merch ifanc sy'n ofni'r heddlu ar ôl cymryd eitem o siop heb dalu amdano mewn camgymeriad.
Mae'r ferch yn cael ei thywys ar daith hudol trwy ei chynefin, lle mae'n dysgu am rôl yr heddlu yn ymladd trosedd mewn cymunedau bychain. Mae hefyd yn dysgu bod swyddogion heddlu, y tu ôl i'r iwnifform, yn byw bywydau normal gyda'u teuluoedd.
Nod y llyfr yw chwalu canfyddiadau, dangos rôl yr heddlu mewn cymunedau clós a thynnu sylw at bwysigrwydd cydberthnasau cadarnhaol.
Cyfarfu Prif Gwnstabl Pam Kelly â rhieni a phlant, cyfranwyr a Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Jamie Pritchard, yn y digwyddiad lansio, a dywedodd:
"Yn ogystal ag ymladd trosedd a chadw ein cymdogaethau'n ddiogel, mae ein swyddogion yn gweithio'n galed i ymgysylltu â chenedlaethau iau.
"Mae hyn yn helpu i fagu hyder ac ymrwymiad cryf yn ein cymunedau ac yn gadael i blant ac oedolion wybod, pan fyddant angen yr heddlu, byddwn yma i'w helpu nhw."
Dywedodd Arolygydd Gavin Clifton: “Cefais fy magu ym Mharc Lansbury a phan oeddwn yn iau, cefais fy ysbrydoli gan swyddog lleol a’i gysylltiad clós gyda'r gymuned.
"Dangosodd i mi sut i ddelio â phobl o bob cefndir yn onest a gyda pharch a rhoddodd synnwyr o bwrpas go iawn i mi.
"Dyma fy neges i bobl ifanc sy'n darllen y llyfr hwn: peidiwch byth â chyfyngu ar eich dyheadau - os ydych yn penderfynu eich bod am wneud rhywbeth, 'does dim rheswm pam na allwch gyflawni eich gôl."
Yn dilyn y digwyddiad a darlleniad gan Mike Brown, rhoddwyd copïau o'r llyfr i'r bobl oedd yn bresennol; aeth swyddogion cymorth cymunedol a'r awdur i ymweld â chartrefi cyfagos wedyn i roi copïau am ddim i gymdogion.
Dywedodd Mike Church, sy’n awdur llyfrau plant: "Roedd yn bleser go iawn gweithio gyda'r heddlu a phobl Parc Lansbury.
"Mae'n dangos beth sy'n digwydd pan fydd pobl yn dod at ei gilydd a rhannu syniadau. Rwyf yn gobeithio bydd pobl ym mhob man yn mwynhau'r llyfr fel stori dda. Efallai bydd yn gwneud i bobl feddwl am y gwaith real ac anodd iawn mae'r heddlu'n ei wneud fel rhan annatod o'n cymunedau."
Mae P.E.T.R.A. Publishing (Parents Engaging To Raise Aspirations) yn ysgrifennu llyfrau plant gyda theuluoedd, ar gyfer teuluoedd, sy'n annog rhieni i ddangos esiampl i'w plant a chreu diwylliant sy'n annog uchelgais a chyfeillgarwch.
I gael mwy o wybodaeth am eu gwaith, ewch i https://www.petrapublishing.org/.