Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Peidiwch â pheryglu eich bywyd chi a bywydau pobl eraill trwy yrru ar gyffuriau. Dyma neges yr ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd diweddaraf.
Mae nifer yr euogfarnau am yrru ar gyffuriau wedi cynyddu ledled y wlad yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Y llynedd yng Ngwent, arestiodd swyddogion 617 o bobl ar amheuaeth o yrru ar gyffuriau.
Mae’r gosb yr un fath am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Gallwch gael gwaharddiad rhag gyrru am 21 mis, dirwy ddiderfyn a dedfryd o garchar.
Rydym yn ymuno â heddluoedd eraill Cymru i gefnogi ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd i godi ymwybyddiaeth o bum prif achos anafiadau ar ffyrdd y DU sy'n cael eu galw'n 'y pump marwol'.
Y 5 marwol | Cadw'n ddiogel ar y ffordd
Gall defnyddwyr ffyrdd sicrhau eu bod yn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel drwy edrych ar eu sbidomedr yn gyson, edrych am arwyddion a defnyddio’r gêr priodol (er enghraifft defnyddio’r trydydd gêr mewn parth 30mya).
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i wisgo gwregys diogelwch mewn cerbyd sydd ag un wedi’i osod. Mae’r gyrrwr hefyd yn agored i gael ei erlyn os nad yw plentyn o dan 14 oed yn gwisgo un.
Cynghorir gyrwyr i ddiffodd eu ffonau cyn cychwyn ar eu taith. Os cewch eich dal yn defnyddio dyfais symudol wrth yrru, fe gyflwynir hysbysiad cosb benodedig i chi a chewch ddirwy o £200 a chwe phwynt ar eich trwydded.
Mae’r gosb yr un fath am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Gallwch gael gwaharddiad rhag gyrru am 21 mis, dirwy ddiderfyn a dedfryd o garchar. Gellir dod o hyd i’r terfynau cyfreithiol ar gov.uk, ond rydym yn argymell os ydych chi’n yfed alcohol eich bod yn trefnu i rywun arall yrru.
Dylai gyrwyr fod yn ystyriol a pharhau i ganolbwyntio drwy’r amser.
Mae enghreifftiau o yrru’n beryglus yn cynnwys:
Dywedodd Prif Arolygydd Martyn Smith:
“Mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol yn amharu ar eich crebwyll, gan achosi i chi ymateb yn arafach ac felly mae'n cynyddu eich siawns o fod mewn gwrthdrawiad. Mae ein neges yn glir; peidiwch â pheryglu eich bywyd chi a bywydau pobl eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd trwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. 'Dyw e' byth yn dderbyniol.
"Mae diogelwch ar y ffyrdd yn hollbwysig i Heddlu Gwent ac ni fyddwn yn goddef ymddygiad sy'n peryglu bywydau ar ein ffyrdd. Rydym am bwysleisio y bydd unrhyw fodurwyr sy'n cael eu dal yn gyrru dan ddylanwad neu'n gyrru'n beryglus yn cael eu herlyn.
"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i sicrhau diogelwch pobl eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd - gofynnaf yn daer ar fodurwyr i yrru'n ofalus, yn gyfrifol ac o fewn cyfyngiadau'r gyfraith ac i sicrhau bod eu cerbydau'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda trwy'r amser."