Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom ein hysbysu am ymosodiad difrifol yn Stryd yr Eglwys, Trellech, ger Trefynwy, tua 8.40pm ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr ar ôl i ddyn gael ei ganfod yn anymwybodol ac yn ddiymateb.
Aeth swyddogion i’r safle ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a gadarnhaodd bod dyn 56 oed o ardal Cas-gwent wedi marw. Ei enw yw Matthew Oubridge.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol. Maen nhw wedi talu’r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd Matthew yn dad, ewythr, brawd a mab anhygoel, a gafodd ei gymryd oddi wrthym ni’n drasig ac yn rhy gynnar.
“Roedd ei deulu ai’i ffrindiau’n ei addoli; roedd ganddo’r galon garedicaf a byddai bob amser yno i’w anwyliaid.
“Bydd colled aruthrol ar ei ôl, ac ni fydd ein bywydau ni byth yr un fath eto.
“Byddwn yn trysori’r atgofion sydd gennym ni am weddill ein hoes. Gofynnwn, fel teulu, i chi barchu ein preifatrwydd ar yr adeg drist hon.”
Arestiwyd dyn 40 oed o ardal Bryste ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae ymholiadau’n parhau a gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100424065.
Mae swyddogion sy’n ymchwilio hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â lluniau CCTV neu gamera car rhwng 7pm a 9.30pm dydd Sadwrn 4 Rhagfyr rhwng Cas-gwent a Trellech.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gydag unrhyw fanylion hefyd.
Bydd tîm plismona cymdogaeth Trefynwy yn cynnal cymhorthfa cymunedol yng Nghanolfan Babington yn Nhrellech rhwng 10.30am a 12.30pm dydd Gwener 10 Rhagfyr lle gall aelodau’r cyhoedd siarad â swyddogion am unrhyw bryderon.