Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:44 22/12/2021
Tîm "Dangos y Drws i Drosedd" Heddlu Gwent ar waith.
Mae tîm sydd newydd ei sefydlu yn Heddlu Gwent yn gwneud Gwent yn ardal lle nad yw dwyn tanwydd yn cael ei oddef drwy dechnegau atal troseddu newydd.
Gan gefnogi busnesau lleol, mae swyddogion wedi gosod arwyddion newydd, yn atgoffa'r cyhoedd i dalu am eu tanwydd. Mae'r dull newydd hwn gan y tîm wedi tynnu sylw at y dull partneriaeth â'r heddlu ac yn anfon neges uniongyrchol at y rhai sy'n ceisio gyrru i ffwrdd heb dalu am danwydd.
Wrth gymharu mis Tachwedd 2019 (cyn y pandemig) â mis Tachwedd 2021, bu gostyngiad o 37% yn nifer y troseddau a adroddwyd i'r heddlu yn ymwneud â dwyn tanwydd.
Dywedodd y Sarsiant Jack Purcell:
“Mae ymdrechion y tîm i gofrestru'r gorsafoedd tanwydd wedi eu gwobrwyo ar unwaith gyda gostyngiad sylweddol mewn troseddau dwyn tanwydd.
“Mae'r arwyddion hefyd yn tynnu sylw troseddwyr at y gwaith ehangach yr ydym ni’n ei wneud i hyfforddi staff ar sut i adnabod arwyddion troseddu a cham-fanteisio.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda gorsafoedd tanwydd Gwent i wneud ein cymunedau'n fwy diogel.”
Fel rhan o'r ymgyrch i atal troseddu, mae staff cwrt blaen wedi'u hyfforddi i nodi arwyddion o droseddu a cham-fanteisio.
Drwy fod yn llygaid a chlustiau'r gymuned, mae'r staff hyn yn helpu i wella gwybodaeth leol ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar.