Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aeth SCC Julieanne Wilkinson i ymweld â siopau trwy gydol mis Tachwedd i gyflwyno’r cynllun.
Mae’r rhai sy’n ymuno â’r cynllun yn cofrestru ar blatfform negeseuon cymdeithasol ac, wrth fewngofnodi bob bore, gallant rannu newyddion am atal trosedd, pobl a ddrwgdybir o siopladrad sydd wedi cael eu gweld yn lleol ac unrhyw achosion o ddwyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar.
Wedyn gall aelodau riportio troseddau wrth Heddlu Gwent ar-lein, ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.
Meddai SCC Julieanne Wilkinson: “Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan fasnachwyr, sy’n falch o’r rhwydwaith cyfathrebu sydd mewn lle i helpu i leihau trosedd.
“Yn ogystal ag atal dwyn a gwneud i siopwyr deimlo’n ddiogel ar y stryd fawr, rwy’n credu bod y cynllun yn creu ymdeimlad o gymuned ymysg y masnachwyr hefyd.”
Meddai Arolygydd Shane Underwood: “Rydym wedi ymroi i amddiffyn ein cymunedau rhag trosedd.
“Wrth i gyfnod y Nadolig agosáu, mae ein swyddogion yn parhau i weithio gyda phobl i dawelu eu meddyliau a rhannu cyngor atal trosedd.
“Mae ein Canolfan Datrys Problemau, tîm pwrpasol sy’n edrych ar strategaethau i fynd i’r afael â thueddiadau trosedd hirdymor ledled Gwent, yn gweithio gyda masnachwyr ar draws y sir i roi mesurau ar waith sy’n amddiffyn eu busnesau a chanfod siopladron.
“Mae ein hymateb i alwadau am droseddau’n bwysig iawn, wrth reswm, ond rydym yn dal i chwilio am ddulliau rhagweithiol y gallwn eu defnyddio i fynd i’r afael â gweithgareddau sy’n effeithio ar gymunedau.”