Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cael bod yn arolygydd yr ardal blismona leol ar gyfer Blaenau Gwent yn fraint wirioneddol ac rydw i'n hynod falch o arwain tîm ymroddedig o swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol sy'n gweithio'n ddiflino i amddiffyn a thawelu meddwl pobl yn ein cymunedau.
Mae mynd i’r afael â throsedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl yn ddiogel yn elwa’n fawr o gefnogaeth ein hasiantaethau partner, busnesau lleol, sefydliadau trydydd sector, gwirfoddolwyr, elusennau a chymunedau – ac rydw i’n gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus, felly diolch.
Wrth fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Coronafeirws yn parhau i gael effaith enfawr ar ein bywydau i gyd ac ar adegau fel hyn mae’r ysbryd cymunedol yn dod i'r amlwg.
Rydych chi, gymunedau Blaenau Gwent, wedi bod yn eithriadol wrth ddod at eich gilydd i gefnogi'ch gilydd drwy'r amseroedd anodd, sy'n dangos bod Blaenau Gwent yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Mae’r Nadolig yn gallu bod yn amser anodd i rai pobl, felly parhewch i fod yn gefnogol ac yn dosturiol wrth eraill drwy gydol yr Ŵyl. Mae yna nifer o asiantaethau cymorth sy’n gallu helpu pobl ar adeg o angen.
O safbwynt plismona yn y gymdogaeth leol, byddwn yn parhau i ymdrin â phob agwedd ar droseddu yn ogystal â chanolbwyntio ar y meysydd rydych chi wedi dweud wrthon ni sy'n effeithio fwyaf arnoch chi, sy’n cynnwys:
Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda thafarndai, clybiau a safleoedd trwyddedig eraill i sicrhau eu bod nhw'n cael eu rheoli'n briodol – fel y gall pawb ddathlu cyfnod y Nadolig mewn amgylcheddau diogel a chynhwysol.
Mae angen i bawb chwarae eu rhan. Mae hyn yn cynnwys meddwl am y bobl sydd o’ch cwmpas drwy wneud y dewis iawn – fel peidio byth â gyrru o dan ddylanwad alcohol. Dyw hynny byth yn dderbyniol a byddwn yn parhau i ymateb yn gadarn i'r rhai sy'n rhoi pobl eraill mewn perygl ar y ffordd.
Mewn man arall, rydyn ni’n parhau i weithio'n galed gyda busnesau lleol i atal dwyn o siopau a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Rydyn ni wedi cynyddu ein patrolau mewn ardaloedd siopa yn y fwrdeistref sirol ac wedi cyflwyno cynllun gwylio siopau yng Nglynebwy - i helpu i atal a chanfod achosion o ladrad.
Byddwn yn parhau i'ch annog i riportio unrhyw un rydych chi'n eu hamau o ddwyn o siopau neu drin nwyddau sydd wedi'u dwyn drwy ffonio 101 neu roi gwybod yn ddienw i Crimestoppers drwy ffonio 0800 555 111.
Yn olaf, edrychwch ar ôl eich hunain dros y Nadolig a pheidiwch â rhoi cyfleoedd hawdd i droseddwyr.
Rydyn ni wedi bod yn rhannu cyngor atal troseddau drwy ein cyfrif Twitter @GPBlaenauGwent, ond gall gwneud pethau syml fel peidio â gadael anrhegion yn y golwg, p'un a ydyn nhw yng nghefn eich car neu o dan eich coeden, helpu i amddiffyn eich eiddo.
Byddwch yn graff, byddwch yn ddiogel.
Rydw i’n edrych ymlaen at 2022 a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n aros amdanon ni.
Rydw i'n mawr ddymuno Nadolig Llawen i chi a'ch teuluoedd a Blwyddyn Newydd ddiogel, iach, hapus a llewyrchus.
Nadolig Llawen.
Arolygydd Shane Underwood