Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi’i lansio yn dilyn marwolaeth dyn ym Magwyr, Sir Fynwy.
Cawsom alwad ychydig cyn 2.30am ddydd Llun 20 Rhagfyr, yn rhoi gwybod am dân mewn carafán ym Mharc Carafanau Preswyl Beeches, Grange Wood, Knollbury.
Cafodd dyn lleol 52 oed ei gludo i'r ysbyty am driniaeth ond bu farw o'i anafiadau fore Llun.
Gellir bellach gyhoeddi mai ei enw oedd Richard Grenfell Thomas.
Cafodd dyn 42 oed o Sir Fynwy ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n dal i fod yn y ddalfa.
Mae teulu Mr Thomas yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Richard Thomas
Maent wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol iddo:
"Roedd ein hannwyl Richard Grenfell Thomas, a oedd yn cael ei adnabod gan ei lysenw Shrew, yn gwbl unigryw. Bydd ei deulu a’r ffrindiau lawer yn ei golli'n fawr.
"Mae Mam a Dad, brodyr, chwaer-yng-nghyfraith, modrybedd, ewythrod a chefndryd i gyd wedi'u syfrdanu'n fawr gan ei farwolaeth sydyn.
"Roedd Richard yn gwneud ac yn cymryd ei gyfleoedd ei hun mewn bywyd, gan ei fyw i'r eithaf - doedd byth moment ddiflas gydag ef. Roedd yn gymeriad cryf, yn adnabyddus ac yn berson bywiog, gyda chylch eclectig o ffrindiau a diddordebau.
"Gorffwys mewn hedd Richard, rydym ni’n gwybod hyd yn oed mewn marwolaeth y byddi di’n dal i fod yn ysbryd rhydd."
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Nicky Brain, yr uwch swyddog ymchwilio:
"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn parhau i fod gyda theulu Mr Thomas ar yr adeg anodd hon.
"Wrth i'n hymchwiliad barhau, bydd gweithgarwch yr heddlu yn yr ardal yn parhau. Hoffem ddiolch i drigolion lleol am eu cefnogaeth a'u cymorth gyda'r ymchwiliad hyd yma.
"Nid ydym ar hyn o bryd yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn."
Anyone with information which could assist the investigation is asked to call 101, quoting log reference 2100441814 or send us a direct message on Facebook or Twitter.
Alternatively, you can contact Crimestoppers anonymously on 0800 555 111.