Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom hysbysiad am ymosodiad difrifol yn Stryd yr Eglwys, Trellech, ger Trefynwy, tua 8.40pm ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr ar ôl i ddyn gael ei ganfod yn anymwybodol ac yn ddiymateb.
Aeth swyddogion i’r safle ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a gadarnhaodd bod dyn 56 oed o ardal Cas-gwent wedi marw.
Enw’r dyn yw Matthew Oubridge. Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Arestiwyd dyn 40 oed o ardal Bryste ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Matt Sedgebeer, yr uwch-swyddog ymchwilio:
“Wrth i’n hymchwiliad barhau bydd swyddogion yn gwneud ymholiadau pellach felly mae’n bosibl y gwelwch chi fwy o swyddogion heddlu yn yr ardal yn rhan o’r gwaith hwn.
“Peidiwch â dychryn ac os oes gennych chi unrhyw bryderon, arhoswch i siarad â ni.
“Rydym eisiau clywed gan unrhyw sydd un â gwybodaeth nad ydynt wedi siarad â’r heddlu eto, yn arbennig pobl gyda lluniau CCTV neu gamera car rhwng 7pm a 9.30pm ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr yn Nhrellech.
“Dylai unrhyw un â manylion ffonio 101, gan grybwyll rhif cyfeirnod 2100424065, neu gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter. Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw hefyd ar 0800 555 111.”
Bydd tîm plismona cymdogaeth Trefynwy yn cynnal cymorthfeydd cymunedol yng Nghanolfan Babington yn Nhrellech lle gall aelodau’r cyhoedd siarad â swyddogion am unrhyw bryderon.
Cynhelir y cymorthfeydd rhwng 12.30pm a 2.30pm dydd Mercher 8 Rhagfyr a dydd Iau 9 Rhagfyr a rhwng 10.30am a 12.30pm dydd Gwener 10 Rhagfyr.