Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Swyddogion heddlu yng Ngwent a De Cymru fydd y cyntaf yn y DU i ddatblygu a defnyddio technoleg i adnabod unigolion a ddrwgdybir mewn amser real trwy ap adnabod wynebau newydd ar eu ffonau symudol.
Bydd yn galluogi swyddogion i adnabod unigolyn a ddrwgdybir bron yn syth, hyd yn oed os yw’r unigolyn hwnnw’n rhoi manylion ffug neu gamarweiniol, a thrwy hynny byddant yn gallu sicrhau arést cyflym. Bydd achosion o gam-adnabod yn cael eu datrys yn hawdd, heb yr angen i fynd i orsaf heddlu neu’r ddalfa.
Yn ystod y cyfnod prawf, a fydd yn parhau am dri mis, bydd yr Ap Adnabod Wynebau (OIFR) yn cael ei ddefnyddio i ddechrau gan 70 o swyddogion o Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru.
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Ian Roberts o Heddlu Gwent:
“Mae croesawu technoleg ac arloesedd yn rhan bwysig o blismona a sut yr ydym yn parhau i gadw pobl yn ddiogel. Bydd yr ap symudol newydd hwn yn offeryn gwerthfawr i helpu swyddogion i adnabod pobl fregus neu bobl ar goll, gan arbed amser a dod ag anwyliaid yn ôl at ei gilydd yn gyflymach.
“Mae’r offeryn hwn yn gallu adnabod rhywun sy’n anymwybodol neu wedi anafu’n ddifrifol ac yn methu dweud pwy ydyn nhw hefyd. Trwy ddefnyddio’r dechnoleg hon rydym yn atal niwed, helpu pobl sydd mewn angen a chadw ein cymunedau’n ddiogel.”
Mae hyn yn ychwanegol at ein defnydd cyfredol o dechnoleg adnabod wynebau ôl-weithredol (RFR). Dim ond un o’r ffyrdd mae’r datblygiadau technolegol hyn yn cael eu defnyddio gan Heddlu Gwent yw hon.
Mae technoleg RFR yn cymharu lluniau llonydd o wynebau pobl anhysbys â chronfa ddata o luniau cyfeirio er mwyn eu hadnabod ar ôl digwyddiad.
Fel arfer daw’r lluniau o CCTV, ffonau symudol neu gyfryngau cymdeithasol. Mae’r lluniau hyn yn cael eu cymharu wedyn â’n lluniau ni a dynnwyd yn y ddalfa.
Mae'r gronfa ddata gyfeirio yr ydym yn ei defnyddio’n cynnwys lluniau a dynnwyd yn y ddalfa gan Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru. Mae'n cynnwys dros 600,000 o luniau.
Ar ôl chwilio drwy'r gronfa, mae'r dechnoleg yn aildrefnu'r lluniau cyfeirio o'r cyfatebiad posibl mwyaf tebygol i'r un lleiaf tebygol.
Fel arfer, bydd gweithredwr yn adolygu'r 200 o gyfatebiadau posibl mwyaf tebygol er mwyn penderfynu a oes cyfatebiad wedi'i wneud. Os bydd y gweithredwr yn penderfynu bod cyfatebiad wedi'i wneud, bydd yn rhoi gwybod i'r swyddog ymchwilio. Bydd y swyddog ymchwilio yn adolygu'r cyfatebiad ac yn ychwanegu'r person at yr ymchwiliad fel unigolyn a ddrwgdybir.
Ychwanegodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Roberts:
“Mae’r dechnoleg hon eisoes wedi cynorthwyo ein hymchwiliadau trwy adnabod unigolion a ddrwgdybir, dioddefwyr a thystion yn fwy effeithlon. Dim ond pan fydd yn angenrheidiol, yn gymesur a gyda’r nod o gadw’r cyhoedd yn ddiogel y bydd technoleg adnabod wynebau’n cael ei defnyddio.”