Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn treialu system ar-lein newydd i ddarparu'r dewis i ddioddefwyr troseddau gael cyfarfod rhithwir gyda swyddog heddlu, neu'r rhai sy'n gwneud adroddiadau am droseddau lefel isel.
Dyma'r ffordd ddiweddaraf y mae'r heddlu'n defnyddio cyfathrebu digidol...
Yn 2019, fe wnaethom gyflwyno'r ddesg ddigidol yn Ystafell Gyfathrebu’r Heddlu sy'n derbyn adroddiadau nad ydynt yn rhai brys drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol. Yn 2021 yn unig mae'r ddesg ddigidol wedi derbyn dros 170,000 o negeseuon a 7,000 o adroddiadau am droseddau ar-lein drwy wefan yr heddlu.
Rydym yn cyflwyno cyfarfodydd rhithwir wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi mesurau pellach i leihau cyfradd trosglwyddo'r amrywiolyn Omicron ledled Cymru.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Matthew Williams:
"Mae ein defnydd o dechnoleg newydd eisoes wedi trawsnewid y gwasanaeth y gallwn ni ei ddarparu i gymunedau Gwent.
"Mae'r cynnig newydd hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ddioddefwyr neu bobl sy’n rhoi gwybod am ddigwyddiadau nad ydynt yn rhai brys, wrth barhau i sicrhau'r safon orau o ofal i ddioddefwyr.
"Wrth i bryderon godi ynghylch lledaeniad parhaus Omicron ledled Cymru, bydd mynd ar-lein ar gyfer rhywfaint o'n gwaith cyswllt yn helpu i leihau'r risg o drosglwyddo i'r cyhoedd a'n swyddogion.
"Rwy’n annog unrhyw un sy'n cael cynnig y gwasanaeth hwn i'w dderbyn a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn."
Dim ond i'r rhai sy'n adrodd am droseddau lefel isel y cynigir cyfarfodydd ar-lein, lle na fydd angen ymateb corfforol uniongyrchol gan yr heddlu.
Cofiwch, i roi gwybod am fater brys ffoniwch 999 bob amser. I riportio troseddau nad ydynt yn rhai brys, anfonwch neges atom yn uniongyrchol ar Facebook neu Twitter, drwy www.gwent.police.uk neu fel arall ffoniwch 101.