Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Helo Nikhita. Alli di ddweud ychydig wrthym ni am faint rwyt ti wedi bod gyda ni fel swyddog heddlu?
Ymunais ym mis Mawrth 2021 a dechreuais hyfforddiant dwys am chwe mis cyn seremoni cwblhau hyfforddiant ym mis Medi.
Ers hynny, rwyf wedi bod dan diwtoriaeth. Mae hynny'n golygu fy mod wedi bod ar sifftiau fel swyddog dan hyfforddiant yng ngorllewin Gwent, yn ymateb i alwadau dan oruchwyliaeth cwnstabl profiadol.
Mae'r cyfnod tiwtora'n parhau am ryw dri mis - y mis hwn gorffennodd fy un i, ac rwyf newydd gael fy nghymeradwyo yn swyddog patrôl annibynnol.
Mae wedi bod yn brofiad gwych ac rwy'n teimlo yn rhan o dîm pwrpasol a brwdfrydig yma yng Ngwent yn barod.
Ar ôl astudio gradd yn y Gyfraith yn Aberystwyth yn y gorffennol, rwy'n cyfuno hyn gyda fy hyfforddiant gyda'r heddlu trwy astudio ar gyfer diploma mewn plismona.
Soniaist am y brifysgol ...Alli di ddweud mwy wrthym ni am yr hyn a ddaeth â thi i Heddlu Gwent yn y lle cyntaf?
Er fy mod i'n gwybod nad oeddwn i eisiau bod yn gyfreithiwr ar ôl graddio, 'doeddwn i ddim yn 100% siŵr pa lwybr gyrfa i'w dilyn. Roedd gen i ddiddordeb yn y gyfraith a helpu pobl ond allai ddim dweud - fel mae llawer o swyddogion dwi wedi cwrdd â nhw'n gallu - fy mod i wedi bod eisiau bod yn swyddog heddlu erioed.
Roedd gen i ffrindiau oedd yn gweithio i Heddlu Gwent yn yr ystafell rheoli galwadau, a chlywais eu bod nhw'n chwilio am siaradwyr Cymraeg i ymuno fel cysylltwyr yn yr ystafell reoli.
Gan fod gen i ddiddordeb yn y gyfraith a helpu pobl ac wedi gwneud fy ngradd yn Gymraeg, roedd gen i ddiddordeb mawr.
Felly, pan oeddwn yn fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol, ceisiais am swydd yn yr ystafell reoli galwadau, a llwyddo. Roeddwn wrth fy modd yno cyn dechrau hyfforddi'n Gwnstabl Heddlu dan hyfforddiant yn gynharach eleni.
Pa mor bwysig i ti yw dy allu i siarad Cymraeg?
'Dwi wrth fy modd gyda'r ffaith fy mod yn gallu siarad Cymraeg ac yn gallu rhoi ychydig o gymorth ychwanegol i gydweithwyr.
Yn yr ystafell rheoli galwadau er enghraifft roeddwn i'n gallu helpu pobl oedd yn ffonio'n Gymraeg ac yn gallu darparu'r gwasanaeth roeddwn nhw ei eisiau a'i angen.
Mae'n hollbwysig ein bod yn rhoi dewis i siaradwyr Cymraeg ledled Gwent.
Fel swyddog, ble yng Ngwent wyt ti'n gweithio a beth wyt ti’n feddwl galli di ei gynnig i'r swydd?
Roeddwn i arfer mynd i'r ysgol ym Mhont-y-pŵl a dwi wrth fy modd nawr fy mod i yn ôl yn yr ardal yn gweithio i'r gymuned.
Dwi'n credu bod hyn yn bwysig iawn: Dwi'n teimlo fy mod i'n deall pryderon lleol yn dda a dwi'n gallu rhoi cymorth sy'n cael effaith gadarnhaol ar bobl yn yr ardal.
Fel cysylltydd yn yr ystafell reoli galwadau, roeddwn ar ben arall y radio, yn siarad gyda thrigolion ac yn anfon swyddogion i alwadau, felly roedd gen i wybodaeth dda am bryderon lleol, y mathau o droseddau oedd yn cael eu cyflawni a sut rydym yn ymateb er mwyn amddiffyn a thawelu meddwl pobl.
Y peth pwysicaf yw rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr ac amddiffyn pobl rhag trosedd, a dwi'n credu bod gen i sylfaen da yn hynny.
Felly os nad oeddet ti wedi bod eisiau bod yn swyddog heddlu erioed, beth wnaeth dy berswadio di i ymgeisio?
Fy mhrofiadau yn yr ystafell reoli galwadau dwi'n credu, yn cymryd galwadau lle roeddwn yn teimlo bod gen i ran gadarnhaol i'w chwarae i wneud yn siŵr bod y galwr yn ddiogel.
Dwi wedi cael galwadau lle'r oedd pobl yn diolch i mi wedyn, yn dweud y bydden nhw wedi hoffi fy ngweld i'n curo ar y drws fel y swyddog a oedd yno i roi’r datblygiadau diweddaraf iddyn nhw, . am eu bod nhw wedi gwerthfawrogi'r cymorth roeddwn wedi ei roi iddyn nhw.
A dechreuais feddwl: Byddwn i wir yn hoffi bod y swyddog yna a oedd yn curo ar y drws i roi'r cymorth dilynol yna iddyn nhw. Cyrhaeddais y pwynt lle roeddwn i eisiau gwneud mwy ac eisiau bod yn swyddog oedd yn ymateb yn bersonol.
A nawr 'dwi yma.
Dwi'n credu bod yr holl lwybrau gwahanol y gallwch eu dilyn yn y maes plismona wedi fy ysgogi i hefyd. Byddaf yn swyddog ymateb am ddwy flynedd yn awr, ond mae cymaint o bethau y gallwch ei wneud, boed hynny mewn swyddi arbenigol mewn plismona cymdogaeth neu draffig, neu trwy'r hyfforddiant rydych yn ei dderbyn trwy gydol eich gyrfa.
Beth am ymgeisio am y swydd? Sut oedd y broses recriwtio?
Mae rhan gyntaf y broses yn teimlo fel unrhyw gais am swydd - rhoi manylion am eich profiadau, addysg ac ati.
Yna rydych yn cael eich gwahodd i'r profion crebwyll sefyllfa, lle mae'n siŵr bod fy mhrofiad yn yr ystafell reoli galwadau wedi fy helpu'n fawr, ac yna asesiad ymddygiad ar ôl hynny (os ydych chi'n llwyddo).
Mae'r canlyniadau ar gyfer hwn yn cyrraedd yn syth ac yna rydych yn cael eich gwahodd i asesiad ar-lein sy'n cynnwys cyfweliad rhithiol ac ymarfer ysgrifennu a briffio.
Os ydych chi'n llwyddiannus ar y cam hwn rydych yn cael gwahoddiad i gyfweliad terfynol, lle rydych yn cwrdd ag aelodau o dîm Heddlu Gwent.
Yna rydych yn destun prawf fetio a phrofion ffitrwydd, meddygol a biometreg cyn cael gwybod eich dyddiad dechrau.
Mae'n broses wirioneddol heriol a boddhaus, un sy'n rhoi cipolwg da i chi ar beth sydd i ddod yn yr ysgol hyfforddiant.
Sut oedd yr hyfforddiant a beth achosodd y syndod mwyaf i ti?
Roeddwn i wrth fy modd gyda'r profion sefyllfa - y gwersi chware rôl - gan fod hynny'r peth agosaf posibl at fod yn swyddog go iawn.
Ar ôl pob pwnc, fel traffig neu'r drefn gyhoeddus er enghraifft, byddai'r aseswyr yn rhoi gweithgaredd ymarferol i ni ei wneud lle'r oedd angen i chi ddefnyddio popeth roeddech wedi ei ddysgu'n flaenorol.
Beth achosodd y syndod mwyaf i mi? Efallai bod hyn yn syndod i'w glywed, gan fy mod yn mynd i mewn i blismona gyda gradd yn y gyfraith, ond mae faint o ddeddfwriaeth rydych yn ei ddysgu fel swyddog dan hyfforddiant yn anhygoel ac mae yna lawer i'w ddeall.
Beth fyddet ti'n dweud wrth bobl sy'n ystyried ymgeisio yn y dyfodol?
Mae'n brofiad anhygoel ac rwyf wrth fy modd gyda'r swydd.
Byddwn i’n dweud bod ymchwil yn bwysig iawn, fodd bynnag, gan fod llawer iawn i chi ei ddysgu wrth fynd trwy'r hyfforddiant.
Ewch i wefan Heddlu Gwent a gwefan y Coleg Plismona i weld beth mae'r swydd yn ei olygu a beth mae'r heddlu'n chwilio amdano.
Mae'n broses hir ond ceisiwch fwynhau'r holl beth a dysgu cymaint ag y gallwch chi, achos bydd beth rydych chi'n ei ddysgu yn ystod y broses hon yn llywio pa fath o swyddog fyddwch chi yn y dyfodol.