Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Helo Tarik. Braf cael sgwrs â thi. Alli di ddweud wrthym ni pryd wnest ti ymuno â Heddlu Gwent a beth yw dy swydd bresennol?
Ymunais i â Heddlu De Cymru ym mis Mawrth 1989 fel swyddog heddlu, yn gweithio yn ardal cwm Rhymni.
Yn ‘96, fodd bynnag, newidiodd ardaloedd ffiniau’r awdurdodau lleol a des i draw i ardal Gwent.
Felly, roeddwn i wedyn yn gweithio yn ardaloedd Bargoed, Rhymni, Ystrad Mynach a Chaerffili cyn gadael y sefydliad yn 2004 - ar ôl pymtheg mlynedd o wasanaeth.
Ond roeddwn i’n gweld eisiau gwasanaeth yr heddlu a’r hyn a ddaw yn sgil gweithio gyda’n cymunedau, felly ailymunais i fel swyddog cymunedol yn y Coed Duon yn 2012.
Felly, mae gen ti lawer o brofiad o weithio ledled ardal plismona’r gorllewin yng Ngwent. Sut mae’r profiad hwnnw o fudd i ti yn dy swydd fel Swyddog Cymorth Cymunedol?
Wel, rydw i wedi byw yn Ystrad Mynach am flynyddoedd, ardal yr wyf i hefyd wedi gweithio ynddi yn y gorffennol.
Mae gennych chi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth leol hollbwysig honno ynghylch pryderon lleol, ac wyneb cyfeillgar, y mae pobl yn ei adnabod, sydd, yn naturiol, yn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod atoch chi yn y cymdogaethau yr ydych chi’n gweithio ynddyn nhw.
Yn fy mhrofiad i, pan fydd pobl yn gwybod pwy ydych chi neu’n eich adnabod chi, neu’n gweld ei bod yn hawdd dod atoch chi, maen nhw’n llawer mwy tebygol o ymddiried ynoch chi naill ai gydag adroddiad y maen nhw’n dymuno ei wneud neu rywfaint o wybodaeth yr hoffen nhw ei rhannu.
Mae meithrin ymddiriedaeth a pherthynas ag eraill yn bwysig iawn i’r rôl.
A oes swyddog, aelod o staff neu berson yn y gymuned sydd wedi cael effaith fawr arnat ti yn y gorffennol neu sydd wedi dylanwadu ar sut rwyt ti’n mynd ati i weithio?
Mae llawer o bobl ddylanwadol ac ysbrydoledig wedi bod yn y maes plismona, ac roedd fy nhad yn swyddog yn ôl yn India a dweud y gwir, ond un person yr hoffwn i sôn amdano yma yw rhywun y gwnes i gyfarfod ag ef pan oeddwn i’n Swyddog Cymorth Cymunedol yn y Coed Duon.
Aeth Geoff Jones, preswylydd 80 oed yn Oakdale, y tu hwnt i gadw’r sgwâr lleol yn daclus. Byddai’n glanhau sbwriel, yn cynnal y mannau gwyrdd ac yn cadw’r gofeb ryfel mewn cyflwr gwych.
Yn wir, arweiniodd llawer o’i waith caled at wobrau ar gyfer y pentref.
Y rheswm yr wyf i’n sôn am Geoff yw yr oedd ganddo bersonoliaeth heintus ac roedd yn ymfalchïo’n fawr yn ei filltir sgwâr.
Byddech chi’n gweld y dyn 80 oed hwn, yng nghanol y gaeaf, yn cerdded drwy’r pentref gyda berfa, yn aros bob hyn a hyn i siarad â phobl ifanc – dyn cymunedol gwirioneddol a fyddai, rwy’n siŵr, wedi bod yn Swyddog Cymorth Cymunedol gwych yn ei amser!
A dyna sut rwy’n teimlo am fy swydd i yng Ngwent. Rwy’n angerddol iawn am roi yn ôl i’n cymunedau a gwneud Gwent yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo.
Alli di rannu digwyddiad diweddar sy’n crynhoi dy waith yn berffaith?
Fel gyda’r holl staff yn Heddlu Gwent, rydym ni yma i amddiffyn a thawelu meddyliau pobl ac amharu ar weithgarwch troseddol.
Mae diwrnod arferol yn aml yn cynnwys mynd ar batrôl mewn mannau lle ceir problemau. Wrth hyn, rydym ni’n golygu ardaloedd lle mae troseddau wedi cael eu hadrodd nifer o weithiau – efallai parciau, gorsafoedd bysiau neu ganol trefi lle’r ydym ni wedi derbyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae’r patrolau’n rhoi sicrwydd i bobl ein bod ni’n mynd i’r afael â’r pethau sy’n effeithio ar eu cymdogaethau ac yn rhoi cyfle iddyn nhw siarad â ni am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw. Yr un peth ar gyfer cymorthfeydd heddlu yr ydym ni’n eu cynnal mewn canolfannau lleol.
Rydym ni’n gasglwyr gwybodaeth hefyd. Mae gwybodaeth y mae’r cyhoedd yn ei rhoi i ni am bethau y maen nhw wedi’u gweld neu’u clywed yn eu trefi yn helpu i lywio ein hymatebion a’n hymchwiliadau. Dyna pam ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n parhau i feithrin perthynas gadarnhaol â’r cyhoedd –fel ein bod ni’n deall pryderon presennol ac yn ymateb yn unol â hynny.
Ar hyn o bryd mae fy ngwaith yn cynnwys Torfaen gyfan ac yn ddiweddar, rwyf wedi sefydlu cyd-weithgor ym Mlaenafon sy’n cynnwys yr heddlu, cynghorwyr lleol, trigolion a gwirfoddolwyr.
Drwy greu grwpiau cymunedol fel y grŵp sglefrfyrddio ym Mlaenafon, gallwn ni dynnu sylw pobl ifanc oddi wrth bethau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u haddysgu ynghylch sut y gall eu hymddygiad gael effaith enfawr ar eu tref nhw a theuluoedd lleol.
Roeddwn i’n hapus gyda’r ffordd yr ymatebodd y gymuned a rhieni lleol i’r prosiect hwn, ond mae’n rhaid i mi ddweud y gallwn i wella fy sgiliau sglefrfyrddio i ychydig!
Beth ydym yn ei olygu wrth blismona pan rydym ni’n sôn am ymgysylltu a pham ei bod yn bwysig gweithio gyda phartneriaid?
Gall ymgysylltu fod yn derm "plismona", ond yn y bôn mae’n golygu gallu gwrando ar ein cymunedau, deall yr hyn sydd ei angen o ran plismona yn yr ardal honno ac yna ymateb – drwy weithredoedd a thrwy sgyrsiau.
Mae bod yn hawdd i bobl ddod atoch chi yn hynod bwysig. Rydym ni yma i gefnogi swyddogion yr heddlu, wrth gwrs, a gyda’n hamlygrwydd ledled y sir rydym ni yma i dawelu meddyliau pobl.
Rydym ni’n meithrin perthynas gadarnhaol â phreswylwyr, gyda phartneriaid, i sicrhau bod pob aelod o’r gymuned yn teimlo eu bod yn gallu siarad â ni pan fydd angen. Mae hyn yn sicrhau bod gan y llu syniad da am deimladau a phryderon lleol.
Mae hyn yn cynnwys bod yno i bobl o bob cefndir gwahanol – peth arall rwy’n angerddol drosto.
Gyda fy nghefndir Asiaidd (roedd fy nhad yn swyddog yn India) rwy’n falch iawn o ddarparu’r gynrychiolaeth amrywiol honno yn ein llu.
Mae bod yn weladwy, yn hygyrch ac yn atebol yn bwysig, yn ogystal â bod yn dosturiol a darparu cyswllt ar gyfer eich cymuned. Yn fy marn i, dyna beth yw natur ymgysylltu.