Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:45 11/02/2021
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl i gebl copr gwerth £35,000 gael ei ddwyn o Ysbyty St Woolos yng Nghasnewydd.
Cafodd y cebl ei ddwyn dros nos ar y 4ydd/5ed o Chwefror.
Oherwydd hyd y cebl, mae’n rhaid bod cerbyd mawr wedi cael ei ddefnyddio i’w gludo.
Os gwelsoch chi unrhyw beth amheus yn yr ardal ar y pryd neu os oes rhywun wedi cynnig hyd o gebl copr i chi, cysylltwch â ni ar 101 gan ddyfynnu 2100041685 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae’r lladrad cywilyddus hwn wedi amharu ar wasanaethau lleol y GIG ac wedi golygu costau sylweddol iddynt ar adeg pan mae ein staff yn wynebu pwysau ychwanegol oherwydd pandemig Covid-19.
“Yn ffodus, ni chafodd y digwyddiad effaith ar ofal cleifion. Fodd bynnag, amharodd y lladrad ar ein generadur trydan ar gyfer argyfwng yn Ysbyty St Woolos ac, mewn toriad pŵer, gallai cleifion fod wedi cael niwed, neu yn waeth, gallent fod wedi colli eu bywydau.
“Gofynnwn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar unwaith.”