Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae tri Labrador ac un Malinois Belgaidd wedi dechrau ar gwrs wyth wythnos o hyfforddiant caled ym Mhont-y-pŵl, wrth i adran cŵn Heddlu Gwent ychwanegu at ei niferoedd.
Cynhaliodd y llu ymgyrch "recriwtio" ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar a chysylltwyd â chanolfan achub leol, All Creatures Great and Small, gan ei fod yn chwilio am gŵn "llawn ynni a brwdfrydedd" a allai gael cartref newydd gyda'r tîm.
Ers hynny, maent wedi dewis pedwar ci i ddechrau ar eu hyfforddiant cŵn heddlu cychwynnol.
Rhoddwyd tri Labrador - Hunter, Max a Missy - i'r tîm gan y ganolfan achub leol, a daeth Maize - y Malinois newydd - oddi wrth berchnogion preifat.
Mae anian ci heddlu yn hollbwysig, esboniodd y tîm, ac mae'n rhywbeth maent yn edrych arno yn ystod y broses ddewis a'r hyfforddiant cychwynnol, pan fyddant yn dysgu mwy am gymhelliad y cŵn i chwarae a'u gallu i ddefnyddio eu synnwyr arogli.
Mae gofyn i gŵn heddlu gadw'n ddigyffro a chanolbwyntio yn ystod gwahanol ddriliau ac ymarferion, gan eu bod yn mynd i weithio gyda'u trinwyr i ddarganfod cyffuriau, arfau tanio a ffrwydron pan fydd gwarantau'n cael eu gweithredu.
Yn ystod y mis nesaf, bydd trinwyr cŵn profiadol Heddlu Gwent yn gallu penderfynu a yw'r cŵn sydd dan hyfforddiant yn addas ar gyfer hyfforddiant pellach a rôl barhaus yn y tîm.
Mae gan Paul Booth, triniwr cŵn wedi ymddeol sy'n dychwelyd i Heddlu Gwent i arwain yr hyfforddiant, flynyddoedd o brofiad.
Dywedodd Paul: "Ar hyn o bryd mae gan Heddlu Gwent gymysgedd o fridiau, gan gynnwys Sbaengwn, Labradors a Chwn Defaid y Goror, sy'n rhoi cymorth i swyddogion chwilio am gyffuriau, arian ac arfau tanio.
"Mae'r cŵn newydd yn cael eu hyfforddi am gyfnod o chwech i wyth wythnos ac yna byddant yn cael eu hasesu a'r gobaith yw y byddant yn cael eu trwyddedu ar ddiwedd y cwrs. Os byddant yn llwyddiannus, byddant yn ymuno â'u trinwyr ar sifft."
Mae pob ci heddlu'n byw gyda'i driniwr yn barhaol a chyn iddynt gael eu trwyddedu maent yn cael eu profi'n drwyadl mewn llawer o ymarferion hyfforddi.
"Mae amodau pob ymarfer yn wahanol" meddai Paul. “Mae eu cymhelliad i chwarae a'u chwilfrydedd naturiol yn bwysig, felly rydym yn dechrau trwy eu cael nhw i chwilio ystafelloedd bach, taclus am eitemau sy'n gysylltiedig â chwarae - fel peli tennis, er enghraifft.
"Yn ystod y cam nesaf, rydym yn rhoi cyffur/sylwedd drws nesaf i'r bêl, er mwyn iddynt arfer ag arogleuon a'r hyn y mae angen iddynt chwilio amdano, ac yn y diwedd byddwn yn tynnu'r bêl oddi yno er mwyn iddynt ganolbwyntio ar ddod o hyd i sylweddau anghyfreithlon yn unig. Trwy gydol yr ymarferion rydym yn defnyddio cliciwr i ddangos eu bod wedi cyrraedd eu nod ac i bwysleisio ymddygiad cadarnhaol.
"Wrth i'r wythnosau fynd heibio, rydym yn gwella eu sgiliau trwy guddio sylweddau ar wahanol uchderau - nid ar y llawr yn unig, ond ar gadeiriau, desgiau a silffoedd, eu cyflwyno i wahanol arogleuon/sylweddau, ac yna rydym yn cynnwys sbardunau a allai 'amharu' ar y chwiliad, pethau fel gwahanol synau, arogleuon ac amodau tywydd.
"Mae hyn yn sicrhau bod y cŵn yn gallu cynnal chwiliadau effeithiol mewn amgylchoedd newidiol a'u bod yn dal i ganolbwyntio."
I ddysgu mwy am gynnydd y cŵn yn ystod eu hyfforddiant, ewch i gyfrif Twitter Heddlu Gwent a'r cyfrif penodol i'r adran cŵn: @gpdogsection.