Apêl ar ôl i ddyn gael ei anafu yng Nghasnewydd
Cynnwys y prif erthygl
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl digwyddiad ger Canolfan Mileniwm Pilgwenlli brynhawn ddoe, dydd Iau 18 Chwefror.
Rhwng 3pm a 3.30pm dioddefodd dyn 28 oed anafiadau i'w ben, ei frest a'i gefn.
Aethpwyd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael triniaeth feddygol. Nid yw ei gyflwr yn peryglu ei fywyd.
Mae swyddogion yn cynnal ymholiadau ac yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad hwn ffonio 101 gan ddyfynnu 2100057967, neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.