Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:46 26/02/2021
Rydym yn apelio am wybodaeth yn dilyn hysbysiad o bryder am les dyn yn Heol Waun Borfa, Pengam, ddydd Llun 22 Chwefror tua 9.20pm.
Gwelwyd dyn yn mynd i mewn i fan wen rhwng 9.20pm a 9.45pm ac roedd yn ymddangos ei fod yn gynhyrfus iawn. Gyrrodd y fan i ffwrdd i gyfeiriad Cefn Fforest.
Credir bod y dyn tua 20 oed, mae ganddo wallt tywyll cyrliog ac mae'n denau. Roedd yn gwisgo top glas a jîns glas ac roedd yn siarad mewn acen leol.
Roedd dyn a menyw gydag ef a chredir bod y ddau ohonynt tua 50 oed.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Ginny Davies: “Rydym yn awyddus i wybod pwy yw'r dyn hwn er mwyn sicrhau ei fod yn iawn.
"Os mai chi oedd y dyn hwn, neu os ydych yn credu eich bod yn gwybod pwy yw'r dyn hwn, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth arall a allai helpu ein hymholiadau, cysylltwch â Heddlu Gwent."
Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu â Heddlu Gwent, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100063564.
Gofynnwn i unrhyw un â delweddau CCTV neu gamera car a allai fod wedi cael llun o'r digwyddiad hwn gysylltu â ni hefyd.
Gallwch ein ffonio ni ar 101, anfon neges uniongyrchol atom trwy gyfrwng ein tudalennau Facebook a Twitter neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.