Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd marwol yng Nghaerffili.
Cawsom ein hysbysu am gerbyd a oedd wedi gadael y ffordd ar yr A472 rhwng Nelson ac Ystrad Mynach am 1.50am dydd Mercher, 3 Chwefror.
Bu farw gyrrwr Vauxhall Corsa du yn y fan a'r lle.
Mae teulu dyn 39 oed o Pontypwl yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae swyddogion yn credu bod y car wedi bod mewn gwrthdrawiad tua 9.15pm y noson flaenorol, nos Fawrth, 2 Chwefror, ac maent yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw un a oedd yn gyrru trwy'r ardal ar y pryd i gysylltu â ni.
Gofynnir i unrhyw fodurwyr â delweddau camera car o'r ardal adeg y gwrthdrawiad gysylltu â ni hefyd. Gallwch gysylltu trwy ffonio 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100039096 neu gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.