Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl i fachgen 17 oed gael ei drywanu yn ei goes ar Heol Somerton, Casnewydd neithiwr, dydd Mercher 3ydd Chwefror.
Dilynwyd y bachgen gan bedwar gwryw o Barc Black Ash, i mewn i Gilgant Wright, Rhodfa Kitty Hawk ac i Heol Somerton tua 7.45pm - 8pm. Ymosodwyd arno i ddechrau gyda dwrn yn ei wyneb y tu allan i siop trin gwallt Perfect ar Heol Somerton ac yna cafodd ei drywanu yn ei goes y tu allan i Eglwys St Andrew. Yna rhedodd y troseddwyr i ffwrdd.
Aethpwyd â'r bachgen 17 oed i Ysbyty'r Faenor am driniaeth, ac mae'n dal yno mewn cyflwr sefydlog.
Cafodd ardal ei chwilio neithiwr ac mae'r ymchwiliad i ddod o hyd i'r troseddwyr yn parhau heddiw.
Yn ôl y disgrifiad roedd un o'r troseddwyr yn ddu, tua 5'8" - 5'9" o daldra ac roedd yn gwisgo cot ddu, fel un North Face, a throwsus du. Roedd un arall yn Asiaidd, tua 5'10" - 5'11" o daldra ac roedd yn gwisgo tracwisg lwyd.
Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal adeg y digwyddiad neu sydd â delweddau teledu cylch cyfyng o'r strydoedd a enwir, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio trwy'r ardal sydd â delweddau camera car.
Cysylltwch â ni ar 101 gan ddyfynnu 2100040126, neu ar ein tudalennau Facebook neu Twitter os gallwch helpu.