Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:05 18/02/2021
Rydym yn apelio am wybodaeth yn dilyn dwy fyrgleriaeth yn ardal Lôn y Bragdy, Caerllion.
Rhywbryd rhwng 6.30pm a 10pm ddydd Mercher 10 Chwefror 2021, aeth rhywun i mewn i dŷ trwy'r drws cefn tra'r oedd y perchnogion yn yr ystafell fyw.
Cafodd bag gwaith a bag Louis Vuitton, tebyg i'r un yn y llun, eu dwyn. (Cyfeirnod: 2100049296)
Ar yr un noson, torrwyd i mewn i sied mewn eiddo cyfagos.
Cafodd dau ddril, yn eu bocsys gyda’r tanwyr, eu dwyn hefyd. (Cyfeirnod: 2100051103)
Os gwelsoch chi unrhyw beth amheus yn yr ardal ar y pryd, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth ynghylch y byrgleriaethau, cysylltwch â ni ar 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom yn dyfynnu'r rhif cyfeirnod.