Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn atgoffa trigolion yn ardal Caerffili i gadw pob drws a ffenest ar glo yn dilyn sawl ymgais i fyrglera a byrgleriaethau.
Ddydd Mawrth 26 Ionawr, cawsom ein hysbysu am ymgais i fyrglera ym Mhen-y-car, Caerffili, lle cafodd ffenest ffrynt, patio a blwch trydan y tu allan eu difrodi. (Cyfeirnod: 2100029747)
Ddydd Mercher 27 Ionawr, cawsom ein hysbysu bod dyn yn ceisio mynd i mewn trwy ddrws cefn tŷ yn defnyddio sgriwdreifer ym Mhen-yr-allt, Caerffili. (Cyfeirnod: 2100030311)
Ddydd Llun 1 Chwefror, cawsom ein hysbysu bod person yn ceisio defnyddio grym i fynd i mewn i gartref ym Mryn Aber, Caerffili. Cerddodd i ffwrdd yn ddiweddarach. (Cyfeirnod: 2100036610)
Ddydd Llun 1 Chwefror, cawsom ein hysbysu bod person anhysbys wedi mynd i mewn i gartref trwy ddrws cegin ym Mhen-y-bryn, Caerffili. Nid ydym yn credu bod unrhyw eitemau wedi cael eu cymryd (Cyfeirnod: 2100037084)
Ddydd Mercher 3 Chwefror, cawsom ein hysbysu am fyrgleriaeth mewn cartref yn Waun Erw, Caerffili lle cafodd allweddi car a phwrs eu dwyn a chymerwyd y car oddi ar rodfa'r eiddo (Cyfeirnod: 2100039201)
Dywed Swyddog Lleihau Trosedd ac Anhrefn Caerffili, Cwnstabl Heddlu Stuart Lewis: "Rydym yn ymchwilio i bob trosedd a riportiwyd ac mae patrolau ychwanegol yn cael eu cynnal yn awr gan swyddogion mewn iwnifform a swyddogion yn eu dillad eu hunain.
“Mae'r rhan fwyaf o'r troseddau hyn wedi digwydd yn ystod oriau mân y bore - os sylwch chi ar unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â ni ar unwaith ar 101 neu os gwelwch chi drosedd yn cael ei chyflawni, ffoniwch 999.”