Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gofynnir i berchnogion cŵn fod yn wyliadwrus ar ôl i bobl geisio dwyn cŵn yng Nghasnewydd a Sir Fynwy.
Cawsom ein hysbysu gan aelod o’r cyhoedd bod dau ddyn wedi mynd i fyny ato pan oedd yn cerdded ei gi ar Heol y Gorfforaeth, Casnewydd, ddydd Sadwrn 6 Chwefror, ychydig cyn 8.15pm. Ceisiodd un o’r dynion ddwyn sylw perchennog y ci er mwyn i’r llall dorri tennyn y ci gyda siswrn.
Llwyddodd y perchennog a’r ci i ddianc heb niwed.
Mae swyddogion hefyd yn ymchwilio i ymgais i ladrata a ddigwyddodd ger Comin Tryleg ddoe, tua 4.50pm. Dywedodd dyn ei fod ef a’i gi yn y car yn barod i fynd adref ar ôl bod am dro pan dynnodd dyn anhysbys ef o’r car ac ymosod arno. Gadawodd y dyn yn waglaw mewn Ford Ranger glas tywyll/du.
Cafodd y dioddefwr anaf i’w wyneb yn ystod yr ymosodiad.
Dywedodd Arolygydd Nikki Hughes: “Wrth reswm, mae hysbysiadau fel y rhain yn peri pryder i berchnogion cŵn a hoffem sicrhau trigolion ein bod yn ymchwilio’n drwyadl i’r achosion hyn.
“Rydym wedi derbyn dau alwad gan aelodau’r cyhoedd heddiw yn lleisio pryderon am gerbydau amheus ac, yn benodol, dynion yn holi am gŵn a busnesau llety cŵn. Gofynnwn yn daer ar unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus i’w riportio wrth yr heddlu.
“Gofynnwn i berchnogion cŵn gymryd camau diogelwch ychwanegol i sicrhau bod eu cŵn yn ddiogel, er enghraifft trwy sicrhau bod gan eich anifail anwes ficrosglodyn a gwirio eich gosodiadau preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol cyn rhannu lluniau o’ch anifail anwes ar-lein, i osgoi denu sylw troseddwyr.
“Hoffwn annog pobl sy’n prynu cŵn i ystyried o ble mae’r anifail wedi dod a sicrhau ei fod yn cael ei brynu’n gyfreithlon. Mae cyngor ar gael ar-lein ar y gwiriadau y dylech eu gwneud cyn prynu ci neu gi bach newydd.”
Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth, neu sy’n gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, ein ffonio ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 2100048681 neu ffonio 999 mewn argyfwng.
Cyngor ar sut i gadw’ch anifail anwes yn ddiogel
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Blue Cross www.bluecross.org.uk/pet-advice/protect-your-dog-against-theft