Lleisiwch eich barn ar sut mae camerâu ANPR yn cael eu defnyddio yng Ngwent
Cynnwys y prif erthygl
Hoffem glywed eich barn ar y defnydd o gamerâu adnabod rhif cerbyd (ANPR) yng Ngwent.
Mae lluoedd heddlu ledled y DU, gan gynnwys Heddlu Gwent, yn defnyddio technoleg ANPR i helpu i ganfod, atal ac amharu ar droseddwyr, gan gynnwys grwpiau trosedd cyfundrefnol a therfysgwyr.
Mae’r camerâu adnabod rhif cerbyd yn cael eu rheoli gan godau ymarfer llym. Maent yn cael eu defnyddio’n bennaf i rybuddio swyddogion am gerbydau sydd wedi cael eu dwyn, cerbydau sydd wedi bod yn rhan o drosedd neu i helpu i ddod o hyd i bobl ar goll. Gellir defnyddio’r data a gesglir ganddynt mewn ymchwiliadau dilynol hefyd.
Mae’n siŵr eich bod wedi gweld sut mae ANPR yn gweithio ar raglenni teledu, neu efallai eich bod yn defnyddio gorsaf betrol neu faes parcio sy’n defnyddio’r system i’ch cadw chi’n ddiogel. Rhag ofn nad ydych yn gyfarwydd ag ef, dyma ffilm fer sy’n dangos sut mae ANPR yn cael ei ddefnyddio.
Mae’r fideo’n dangos sut mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn defnyddio ANPR i ddod o hyd i unigolyn ar goll:
https://www.youtube.com/watch?v=R_YsJMFjiOw&feature=youtu.be
Mae ANPR yn offeryn pwysig i’n helpu ni i achub y blaen ar droseddwyr ac i amddiffyn ein cymunedau lleol yn well.
Mae eich barn chi’n chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn gwneud hyn.
Dim ond ychydig o funudau sydd eu hangen arnoch i gwblhau’r arolwg dienw hwn, ond gall eich barn gael effaith barhaus ar sut rydym yn defnyddio’r dechnoleg.
Cwblhewch yr arolwg:
https://westmidlandspolicepnn.researchfeedback.net/s.asp?k=160337245159