Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Chwefror yw mis hanes LGBT+ ac rydym yn #Falch i gefnogi'r mis o ymwybyddiaeth genedlaethol yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ni fydd casineb homoffobig, deuffobig na thrawsffobig yn cael ei oddef yng Ngwent. Rydym yn addo parhau i gynyddu ymwybyddiaeth o'r effaith penodol mae trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu ei gael ar bobl LGBT+ trwy roi gwybodaeth i swyddogion a staff trwy gydol mis Chwefror i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cynhwysol i bawb.
A wyddoch chi…
Cafodd Mis Hanes LGBT+ ei sefydlu yn y DU gan Schools Out UK yn 2005, gyda'r nod cyffredinol o hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth er budd y cyhoedd.
'I addysgu er mwyn dileu rhagfarn a gwneud pobl LGBT+ yn weladwy yn eu holl amrywiaeth gyfoethog' gan unioni effaith Adran 28 Deddf Llywodraeth Leol 1988 a oedd i bob pwrpas yn gwahardd cynnwys cydberthnasau o'r un rhywedd mewn adnoddau a gwersi addysgol. Parhaodd hyn rhwng 1988 a 2003 a chafodd effaith dwys iawn ar bobl ifanc a oedd yn arddel hunaniaeth LGBT+
Mae ein hymrwymiad i gyfrannu at waith codi ymwybyddiaeth a mentrau eraill sy'n digwydd ledled Gwent yn ystod y mis yn dangos ein cefnogaeth i bobl LGBT+ sy'n byw a gweithio yng Ngwent, a'n cefnogaeth i'n swyddogion a’n staff LGBT+. Mae Mis Hanes LGBT+ yn gyfle i ddeall yn well beth mae bod yn LGBT+ yn ei olygu yn 2021 a chodi ymwybyddiaeth o'r profiadau mae pobl yn eu hwynebu yn ein cymunedau.
Fel cyflogwr, rydym yn ymroi i fod yn deg a chynhwysol ac i ddangos cefnogaeth i'n swyddogion a’n staff. Fel darparwr gwasanaeth, ein nod yw mynd i’r afael â throseddau mae pobl LGBT+ wedi eu dioddef, yn arbennig troseddau oherwydd casineb neu elyniaeth tuag at nodwedd bersonol, ac atal y troseddau hynny.
Rydym yn cydnabod bod pobl LBGT+ yn wynebu rhwystrau ychwanegol yn y gymdeithas hefyd, a bod pandemig COVID-19 a chyfyngiadau symud wedi effeithio ar gadernid pobl ac wedi cynyddu'r effaith mae trosedd yn ei gael.
Dywedodd Wendy Keepin, Cadeirydd ein rhwydwaith LGBT+:
“Rydym yn gweld bod y pandemig yn cael effaith dwys ar les ein cymuned LGBT+. Mae pobl wedi eu hynysu oddi wrth eu rhwydweithiau cymorth ac mae hyn yn cael effaith niweidiol ar eu lles. Er gwaethaf yr heriau mae plismona'n eu hwynebu yn ystod y pandemig hwn, rydym yma o hyd i bawb ac nid ydym am i bobl sy'n dioddef unrhyw drosedd casineb ddioddef yn dawel. Cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau glas i'ch cefnogi chi trwy'r cyfnod anodd a heriol hwn."
Dywedodd Nick Lewis, Cyfarwyddwr Umbrella Cymru:
“Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef troseddau casineb a throseddau eraill ar-lein, a hoffem annog pobl i gysylltu'n uniongyrchol â ni i gael cymorth yn y cyfnod anodd iawn hwn. Mae Umbrella Cymru'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl ledled Cymru o ran rhywedd ac amrywiaeth rhywiol ac rydym wedi bod yn gweithredu trwy gydol y pandemig i gynyddu'r cymorth y gallwn ei gynnig.
"Mae ein gwasanaethau'n cynnwys darparu gwybodaeth, rhywun i sgwrsio â nhw, cymorth ac eiriolaeth ymarferol, cefnogaeth emosiynol a seicogymdeithasol barhaus a chymaint mwy. Mae ein tîm wedi cael hyfforddiant arbenigol i roi cymorth i bobl o bob oedran ac rydym yma i helpu.
Fel asiantaeth partner Connect Gwent, y gwasanaeth amlasiantaeth i ddioddefwyr yng Ngwent, rydym yn darparu gwasanaeth pwrpasol i unrhyw berson ifanc sy'n cael ei effeithio gan drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws Gwent gyfan, ac rydym yn cynnig cymorth arbenigol o ran rhywedd ac amrywiaeth rhywiol i oedolion sydd wedi dioddef trosedd.”
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i chi os ydych chi wedi profi trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngwent, ewch i:
www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent/
Mae Umbrella Cymru'n cynnig gwasanaeth sgwrsio ar-lein 12-7pm, 7 diwrnod yr wythnos. Ewch i'r wefan a chliciwch y botwm "sgwrs" ar waelod y sgrin ar yr ochr dde.
Fel arall, gallwch gysylltu ag Umbrella Cymru drwy:
Ffonio 0300 3023670 neu 07520645700
Mae Umbrella Cymru yn asiantaeth partner i Connect Gwent. I gysylltu â Connect Gwent, ffoniwch 03001232133 neu ewch i www.connectgwent.org.uk (cewch eich cyfeirio at Umbrella Cymru sy'n rheoli'r wefan a'r sgwrsio ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud).
COFIWCH: Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng. I riportio trosedd wrth Heddlu Gwent nad yw'n argyfwng, ffoniwch 101.