Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:54 10/02/2021
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fachgen 17 oed gael ei drywanu yn ei goes yng Nghasnewydd yr wythnos ddiwethaf.
Tua 7.45-8pm ddydd Mercher 3ydd Chwefror, dilynwyd y bachgen 17 oed o Barc Black Ash i Heol Somerton lle cafodd ei drywanu yn ei goes. Aethpwyd ag ef i’r ysbyty i gael triniaeth ond mae wedi cael ei ryddhau ers hynny.
Mae dyn 18 oed o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drosedd adran 18 - anafu bwriadol - ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau’n parhau.
Mae’r ymchwiliad yn parhau. Os oes gennych chi wybodaeth a allai helpu, ffoniwch 101 gan ddyfynnu 2100040126 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.