Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:30 09/02/2021
John Cull yw enw'r dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A472 yng Nghaerffili.
Cawsom ein hysbysu am gerbyd a oedd wedi gadael y ffordd ar yr A472 rhwng Nelson ac Ystrad Mynach am 1.50am dydd Mercher, 3 Chwefror.
Gallwn gyhoeddi mai enw gyrrwr y Vauxhall Corsa du, a fu farw yn y fan a'r lle, yw John Cull, 39 oed o Bont-y-pŵl.
Mae ei deulu'n dal i gael cymorth gan swyddogion arbenigol ac maent yn dymuno cael llonydd i alaru yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rydym yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad un cerbyd a ddigwyddodd tua 9.15pm y noson flaenorol, nos Fawrth 2 Chwefror.
Gofynnir yn daer ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad ac sydd heb siarad â swyddogion eto i gysylltu â ni.
Gofynnir i unrhyw fodurwyr â delweddau camera car o'r ardal adeg y gwrthdrawiad gysylltu â ni hefyd.
Gallwch gysylltu trwy ffonio 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100039096 neu gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.