Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn atgoffa trigolion i fod yn wyliadwrus yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau a ddigwyddodd yn ardal Magwyr, Sir Fynwy yn ddiweddar.
Targedwyd pedwar tŷ rhwng 2-3 Chwefror.
Dydd Mawrth 2 Chwefror, cafodd eitemau'n cynnwys system llywio â lloeren, gemwaith, arian a chardiau banc eu dwyn o dŷ yn Rhes y De, Redwick a chymerwyd llif gadwyn a thorrwr clawdd o sied perchennog y tŷ. Credir bod yr eitemau wedi cael eu dwyn rhwng 6.30pm a 9.30pm.
Wrth wneud ymholiadau am y fyrgleriaeth o ddrws i ddrws cafodd swyddogion eu hysbysu bod rhywun wedi torri i mewn i sied yn yr ardal gyfagos hefyd. Ni chymerwyd unrhyw eitemau yn ystod y digwyddiad ond roedd clo'r sied wedi cael ei dorri i ffwrdd.
Torrwyd i mewn i ddau eiddo ar wahân yng Nghilgant Windsor ddydd Mercher 3 Chwefror ac ymysg yr eitemau a gafodd eu dwyn roedd clustffonau Bose, arian, cardiau banc ac allweddi car. Credir bod hyn wedi digwydd rhwng 12am a 4am.
Mae Heddlu Gwent yn atgoffa trigolion ledled Gwent i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw weithgarwch amheus yn yr ardal.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Alistair Frame: “Hoffem sicrhau trigolion ein bod yn ymchwilio i bob trosedd a riportiwyd a bod patrolau ar waith yn yr ardal.
"Credir bod y troseddau hyn wedi digwydd yn gynnar gyda’r nos ac yn ystod oriau mân y bore, felly hoffem atgoffa ein cymunedau i gadw pob drws a ffenest ar glo ac i ystyried mesurau ychwanegol i gadw siediau yn ddiogel.
"Hoffem ofyn i bobl ystyried CCTV, fel camerâu sy'n sensitif i symudiad, hefyd a fydd yn gwneud eu heiddo'n fwy diogel.
"Os bydd unrhyw un yn sylwi ar unrhyw weithgarwch amheus yn yr ardal, cysylltwch â ni ar 101 neu, os gwelwch chi drosedd yn cael ei chyflawni, ffoniwch 999 ar unwaith gan ddyfynnu'r rhif cofnod canlynol: 2100039011.”