Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu menyw y daethpwyd o hyd iddi wedi marw ym Mhont-y-pŵl wedi ei disgrifio fel ‘mam a mam-gu anhygoel’ a ‘ffrind annwyl’ i lawer.
Yn dilyn hysbysiad bod menyw wedi cael ei darganfod yn farw mewn eiddo yn Sebastopol, Pont-y-pŵl aeth swyddogion i’r lleoliad tua 9.20am ddydd Sadwrn 6 Chwefror 2021.
Cyhoeddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod Linda Maggs, Linda Minahan gynt, 74 oed, wedi marw.
Mae ei theulu, sy’n cael cymorth gan swyddogion wedi’u hyfforddi’n arbennig, wedi cyhoeddi’r deyrnged ganlynol:
“Roedd Linda’n fam a mam-gu anhygoel ac yn ffrind annwyl i lawer. Yn drasig, cafodd ei chymryd oddi wrthym ni’n rhy gynnar.
“Roedd yn fam annwyl a oedd bob amser ar ben arall y ffôn i roi cariad a chyngor i ni pan oedd ei angen arnom. Roedd ei mab Andrew, ei merch Kerry, ei merch yng nghyfraith Lisa, ei mab yng nghyfraith Allan a’i holl wyrion yn ei haddoli.
“Roedd yn brydferth ar y tu fewn a’r tu allan a bydd pawb a gafodd y pleser o’i hadnabod yn gweld colled enfawr ar ei hôl.
“Roedd ganddi galon mor garedig a byddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un.
“Ni fydd ein bywydau byth yr un fath a byddwn yn ei thrysori am byth yn y cof.
“Gofynnwn i chi barchu ein preifatrwydd ar yr adeg drist hon.”
Cafodd dyn 70 oed o Bont-y-pŵl ei gyhuddo o lofruddiaeth ac ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth 9fed Chwefror 2021.